Trefnu cymodi ffurfiol rhwng Esgob Mynwy a'i staff

  • Cyhoeddwyd
Esgob Richard PainFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafwyd unrhyw achos yn erbyn y Gwir Barchedig Richard Pain, ond mae camau ffurfiol i annog cymodi yn cael eu cynnal

Mae Esgob Mynwy wedi bod yn absennol o'i rôl ers chwe mis yn dilyn honiadau o anghydfod gydag aelodau o'i staff.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod yr anghydfod yn sgil cwynion yn erbyn y Gwir Barchedig Richard Pain gan staff.

Mae swyddogion yr eglwys wedi cadarnhau nad yw wedi ei atal yn swyddogol o'r rôl, ond eu bod yn ymwybodol o "ddyfalu" am yr esgob a'i "berthnasau gyda'i dîm hŷn".

Nid yw Archesgob Cymru, John Davies, wedi gwneud sylw ar y mater.

Annog cymodi

Cyn dod yn esgob yng Ngorffennaf 2013, gwasanaethodd Richard Pain yn yr esgobaeth am bron i 30 mlynedd.

Roedd yn Archaeddon Mynwy am bum mlynedd, ac yn ficer ac yn gurad.

Er i ymchwiliad gan yr eglwys ddangos nad oedd yna'r un achos i'w ddilyn, bu'n rhaid symud at ddulliau ffurfiol i annog cymodi.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod gan Archesgob Cymru, John Davies, rôl "weithredol" gyda phroses gyfryngu i geisio delio gyda'r problemau.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Archesgob Cymru, John Davies, rôl weithredol yn y prosesau ffurfiol i annog cymodi

Mewn datganiad, dywedodd yr Eglwys yng Nghymru bod yr Archesgob yn "ymwybodol o'r problemau" ac yn "parhau'n rhan o drafodaethau gyda'r rhai dan sylw, mewn proses ffurfiol i gyfryngu er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r mater".

Dywed yn y datganiad: "Am resymau'n ymwneud â chyfrinachedd, ac o barch i'r rhai dan sylw yn ystod y broses gyfryngu, fe fyddai'n anaddas i wneud sylw pellach ar hyn o bryd.

"Rydym yn deall bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus ac yn rhwystredig gyda'r sefyllfa ar hyn o bryd, ond rydym yn parhau i ofyn am eu hamynedd tan bod y mater wedi'i ddatrys.

"Mae gwaith yr esgobaeth yn parhau, ac mae'r staff yn Swyddfa'r Esgobaeth a chlerigwyr hŷn yn parhau i ddarparu arweiniad a chefnogaeth i'r rhai sydd eu hangen."

Ychwanegwyd yn y datganiad bod llythyr wedi'i anfon at yr esgobaeth yn gofyn i bobl "barhau i gynnwys yr Esgob Richard, ei deulu a'r esgobaeth gyfan yn eu gweddïau".

Mae'r BBC wedi clywed gan ffynhonnell o'r eglwys nad oes awgrym bod unrhyw drosedd wedi digwydd, ac nad yw mor ddifrifol ag y mae pobl yn ei feddwl.

Mae'r esgob wedi cael ei wahodd i gynnig sylw.