Newid statws yr Eglwys yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Mae angen tacluso rhai eithriadau i statws gyfreithiol yr Eglwys yng Nghymru, yn ôl pwyllgor o Aelodau Cynulliad.
Collodd yr Eglwys ei statws fel crefydd swyddogol Cymru nôl yn 1920 - proses o'r enw datgysylltu - ond mae eithriadau yn parhau.
Daeth rhai problemau i'r amlwg wrth i Lywodraeth Prydain gyflwyno deddfwriaeth i ganiatai priodasau hoyw. Awgrymwyd i ddechrau y byddai eithriad i Eglwys Lloegr yn cwmpasu'r Eglwys yng Nhymru hefyd.
Torri cysylltiad
Newidwyd hynny yn y pen draw, ond hyd yn oed os fydd yr Eglwys yng Nghymru yn penderfynu caniatau priodasau hoyw yn y dyfodol, bydd rhaid i'r Arglwydd Ganghellor gyflwyno'r newid yn San Steffan.
Yn ôl Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad, dylid torri'r cysylltiad yma â San Steffan. Un opsiwn tymor-hir fyddai datganoli polisi priodas i Fae Caerdydd.
Mae 'na anghysondeb hefyd yn ymwneud â mynwentydd - does dim hawl gan yr Eglwys yng Nghymru i gau hen fynwentydd, pwêr sy'n bodoli yn Eglwys Lloegr.
Dywed y pwyllgor fod hyn yn atal yr Eglwys yng Nghymru rhag agor mynwentydd newydd.
Datgysylltu?
Dywedodd David Melding, cadeirydd y pwyllgor: "Mae'r Pwyllgor yn pryderu bod y cynnig ynghylch priodas gyfartal wedi'i gyflwyno heb ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru ond rydym yn credu bod Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i unioni'r sefyllfa.
"Mae'r Pwyllgor, fodd bynnag, hefyd yn credu mai datrys y broblem dros dro mae'r gwelliant a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU a bod angen datrys problem ehangach, a hynny'n fwy parhaol, gan gynnwys ystyried y posibilrwydd o ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru yn llawn.
"Bydd angen Deddf Seneddol i wneud hynny, ond credwn y byddai'n hynny'n rhyddhau'r Eglwys o olion y cyfnod pan oedd yn Eglwys Sefydledig, sef problem y mae'n ymgodymu â hi ers canrif bron."
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod y sefydliad mewn sefyllfa anghyffredin.
Dywedodd na fu ystyriaeth i alw am newid i'w statws yn ymwneud â phriodasau. Ond fe fyddai'r Eglwys yn croesawu help i fynd i'r afael â phroblemau sy'n codi o'r angen i gynnal a chadw mynwentydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012