Torri gair wrth dorri gwallt...
- Cyhoeddwyd

Mae Costas Lazarou yn farbwr poblogaidd yn ardal Treganna o Gaerdydd ers blynyddoedd.
Cafodd ei eni yng Nghymru i rieni o ynys Cyprus, ond cafodd ei fagu yng Nghaerdydd.
Er hyn, fe deimlodd Costas fod y Gymraeg wedi bod yn ddieithr iddo erioed.
Ond mewn snip, mae'r dyn busnes o Gaerdydd wedi penderfynu rhoi'r iaith ar waith, gan ofyn i'w gwsmeriaid i helpu yn ei her i ddysgu.
O ddydd Mawrth, Ionawr 8, mae Costas yn rhoi bwrdd gwyn nesa' at ei ddrych yn y salon lle y bydd yn gofyn i'w gwsmeriaid i ysgrifennu gair Cymraeg iddo ddysgu. Am y mis cyntaf, bydd yn rhoi punt am bob un mae'n ei gasglu at elusen sy'n cefnogi'r iaith.

Mae Costas wedi bod yn trin gwallt yng Nghaerdydd ers 31 o flynyddoedd
Mae Costas hefyd wedi codi arwyddion dwyieithog yn ei siop yn Nhreganna, gan gynnwys un am hanes y polyn coch a gwyn sy'n gyfarwydd ledled y byd.
"Ges i fy ngeni yng Nghymru i deulu o Ynys Cyprus, ond y gwir amdani, 'doedd gen i fawr o ddiddordeb yn y Gymraeg gan mai'r iaith Groeg oedd iaith y teulu," meddai Costas.
"Ond ar ôl gwrando ar fy merch fach chwech oed yn canu caneuon Cymraeg ar ôl dod adre' o'r ysgol, wnes i benderfynu 'mae'n bryd i mi ddechrau dysgu' - maen nhw'n dweud bo 'chi byth yn rhy hen."
Ymhlith y siaradwyr Cymraeg sy'n gwsmeriaid i Costas mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, a'r darlledwr Jason Mohammad, sydd i'w glywed ar BBC Radio Wales yn ddyddiol ac ar raglenni teledu BBC ac S4C.

Costas gydag un o'i gwsmeriad adnabyddus, y darlledwr Jason Mohammad
"Mae'r sedd yn y salon wastad wedi bod yn gyfle i gwsmeriaid roi'r byd yn ei le, a choeliwch fi, dwi wedi clywed pob math o straeon yn y 31 mlynedd dwi wedi bod yn torri gwallt.
"Ond mae popeth wedi bod yn Saesneg - heblaw am ambell un mewn Groeg. Bydde'n grêt cael ambell i un yn y Gymraeg hefyd!
"Pan oeddwn i yn tyfu i fyny 'doedd 'na fawr o Gymraeg i'w chlywed ar strydoedd y ddinas, ond mae pethau'n newid."
Yn ogystal â'r her i ddysgu wrth dorri gwallt, mae Costas yn fodlon helpu ei gwsmeriaid drwy gynnig cwpl o eiriau yn iaith Groeg - handi iawn ar gyfer eu gwyliau!