CNC i glirio gwastraff anghyfreithlon sgipiau Porthmadog

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Graddfa'r gwastraff oedd yn ei gadw gan y cwmni ar eu safle ar Ystâd Ddiwydiannol Penamser

Mae'r gwaith o glirio safle gwastraff anghyfreithlon ar gyrion tref yng Ngwynedd wedi dechrau.

Bydd contractwyr arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn treulio pedair wythnos yn clirio'r gwastraff o safle Porthmadog Skip Hire ar Ystâd Ddiwydiannol Penamser.

Cafodd perchnogion y cwmni, Patricia Mary Gaffey, Michael John Gaffey a Joseph Benedict Gaffey eu carcharu yn 2017 am gadw gwastraff mewn modd anghyfreithlon.

Dywedodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau CNC yng ngogledd orllewin Cymru: "Rwy'n gobeithio y bydd yr achos hwn yn anfon neges gref i'r diwydiant gwastraff nad ydym yn goddef gweithredwyr anghyfreithlon sy'n tanseilio gweithredwyr cyfrifol sy'n cydymffurfio â'r gyfraith."

7,800 tunnell

Roedd y cwmni yn cael cadw 5,000 tunnell o wastraff ar y safle pob blwyddyn, ar yr amod ei fod yn cael ei gadw mewn mannau addas.

Ond fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) amcangyfrif ei fod yn cadw 7,800 tunnell o wastraff, ac nad oedd yn cael ei storio'n gywir.

Ffynhonnell y llun, CNC

Y llynedd, yn dilyn gwrandawiad o dan y Ddeddf Elw Troseddau, fe gafodd y tri phartner orchymyn i dalu oddeutu £350,000.

Bydd yr arian yma, ynghyd â grant gan Lywodraeth Cymru, yn cyfrannu tuag at gost clirio'r safle, y disgwylir i fod oddeutu £800,000.

Bydd y gwastraff yn cael ei glirio a'i gymryd i safle yng Nghonwy tra bod CNC yn goruchwylio'r broses.

Ychwanegodd Ms Williams: "Gall storio gwastraff yn anghyfreithlon niweidio'r amgylchedd, peri risg i iechyd dynol a thanseilio busnesau sy'n gweithredu o fewn y gyfraith.

"Byddwn yn gwneud pob ymdrech i leihau aflonyddwch i fusnesau cyfagos tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud."