Apêl arall am wybodaeth am ddyn o'r Rhyl fu farw yn 2016

  • Cyhoeddwyd
Liam HillFfynhonnell y llun, Family photo

Mae teulu dyn gafodd ei ganfod yn farw yn ei fflat dair blynedd yn ôl wedi gwneud apêl o'r newydd am wybodaeth.

Cafodd corff Liam Hill ei ganfod yn ei fflat yn Y Rhyl ar 8 Ionawr 2016, a bu ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn hynny.

Fe wnaeth ymchwiliad post mortem ddangos bod Mr Hill, 44, wedi dioddef nifer o anafiadau gan gynnwys i'w benglog.

Ond fe wnaeth cwest ddyfarnu ei bod hi'n amhosib dweud a oedd wedi disgyn neu wedi marw ar ôl i rywun ymosod arno.

Mae ei deulu nawr yn bwriadu dosbarthu pamffledi a phosteri yn yr ardal er mwyn ceisio canfod "atebion" i'w farwolaeth.

'Wedi disgyn'

"Gallai unrhyw fanylyn bach rydych chi'n credu allai fod yn berthnasol ailagor yr ymchwiliad," meddai chwaer Mr Hill, Joyce.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Chris Bell o Heddlu'r Gogledd bod Mr Hill wedi cael ei weld mewn bwcis a thafarn y Bar Bow ar 6 Ionawr 2016, a'i fod yn ymddangos yn feddw.

Y diwrnod canlynol fe siaradodd ar y ffôn gyda'i fam, gan ddweud ei fod wedi disgyn y noson gynt a brifo'i ysgwydd.

Am tua 09:30 ar 8 Ionawr fe siaradodd gyda'i fam unwaith eto, a'r prynhawn hwnnw y cafodd ei ganfod yn farw yn ei fflat.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd Mr Hill yn y dafarn neu'n "gwybod sut y cafodd Liam ei anafiadau yn y dyddiau cyn ei farwolaeth".