Cyhoeddi adroddiad Jillings ar ôl 17 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Cartre' Bryn Estyn yn 1992Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cartrefi gofal o dan sylw oedd Bryn Estyn yn Wrecsam

Mae adroddiad a ysgrifenwyd 17 mlynedd yn ôl wedi honiadau o gamdriniaeth mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru rhwng y 1970au a'r 1980au, yn dweud fod yr achosion yn "eang" ac wedi digwydd "dros nifer helaeth o flynyddoedd".

Cafodd adroddiad John Jillings ei ysgrifennu yn 1996 ond cafodd ei roi o'r neilltu gan Gyngor Sir Clwyd, fel yr oedd ar y pryd.

Ond cafodd fersiwn wedi'i olygu ei gyhoeddi ar-lein ddydd Llun yn dilyn cais gan y BBC o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

'Rhy ychydig yn rhy hwyr'

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad fod camdriniaeth yn y cartrefi gofal dan sylw yn "eang, ac wedi bod yn digwydd dros nifer helaeth o flynyddoedd."

"Mae'n glir mewn nifer sylweddol o achosion fod 'na effaith fawr ar fywydau pobl ifanc aeth drwy'r system ofal yng Nghlwyd. Mae o leia' 12 o bobl ifanc wedi marw," meddai'r adroddiad.

Dywed yr awdur: "Mae ein casgliadau yn dangos dro ar ôl tro fod yr ymateb i arwyddion fod plant yn cael eu cam-drin wedi bod yn rhy ychydig yn rhy hwyr."

Ychwanegodd nad oedd yn eglur faint o ddatganiadau a gafodd eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron, nac ychwaith faint o weithwyr proffesiynol - gan gynnwys heddweision - oedd wedi'u henwi yn y datganiadau hynny fel rhai a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.

Beirniadaeth lem

Yn ôl yr adroddiad: "Dydyn ni ddim yn gwybod faint o achosion disgyblu allai fod wedi deillio o hyn. Rydym yn gwybod fod o leia' dri gweithiwr gydag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Clwyd wedi cael eu holi fel rhan o'r ymchwiliad. Fel yr ydym ni'n deall, chafodd yr un ohonynt eu disgyblu."

Mae'r adroddiad yn cynnwys beirniadaeth lem o unigolion penodol o fewn yr awdurdod, yn ogystal ag o bolisiau a gweithdrefnau.

"Ond rydym yn parchu'r awdurdod am fod mor benderfynol i archwilio i'r hyn aeth o'i le," ychwanega'r awdur.

Daeth hefyd i'r amlwg fod y panel wedi ystyried rhoi'r gorau i'r ymchwiliad yn llwyr ar un adeg oherwydd nifer y cyfyngiadau arnynt. Dywedon nhw fod diffyg gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru yn eu rhwystro, a bod 'na ddryswch ynghylch â pha ffeiliau oedd ar gael iddynt gan Wasanaethau Cymdeithasol Clwyd. Roedd rhai aelodau staff a chyn weithwyr hefyd yn gwrthod cael eu cyfweld.

Daeth y panel i'r casgliad fod yna dystiolaeth o gamdriniaeth eang yng nghartrefi plant Clwyd ond nad oedd gobaith o ddelio â'r pryderon ehangach, gan gynnwys honiadau fod ffigurau cyhoeddus wedi bod yn rhan o'r cam-drin.

Dedfrydu

Daeth yr honiadau, yn ymwneud â nifer o gartrefi gofal gan gynnwys Bryn Estyn yn Wrecsam, i'r amlwg yn y 1990au.

Bu Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio yn 1991 a chafodd nifer o weithwyr gofal eu dedfrydu.

Ond wrth i ragor o honiadau mewn bron i 40 o gartrefi gael eu datgelu, fe gomisiynodd hen Gyngor Sir Clwyd Adroddiad Jillings yn 1994.

Yn ôl Mr Jillings, cyn gyfarwyddwr gyda gwasanaethau cymdeithasol Sir Derby, roedd y cyngor yn pryderu am achosion iawndal drud ac ni chafodd yr adroddiad 300 tudalen ei gyhoeddi ar y pryd.

Hunanladdiad

Cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, dywedodd Mr Jillings wrth y BBC fod y cam-drin ar raddfa eang lle oedd plant wedi eu hynysu.

"Nid oedd staff pencadlys yn ymweld yn rheolaidd neu, os oedden nhw, doedden nhw ddim yn drylwyr iawn.

"Felly roedd y staff ar eu pennau eu hunain gyda'r plant 99% o'r amser ...

"Roedden nhw'n meddwl bod y plant allan o reolaeth ac mai'r ateb oedd eu cam-drin.

"... ni chafodd y plant eu trin fel bodau dynol gan rai aelodau staff.

"Bu farw rhai, 10 ohonyn nhw. Lladdodd rhai eu hunain."

Cynghorau

Dennis Parry oedd arweinydd Cyngor Sir Clwyd pan ddaeth yr adroddiad i law'r awdurdod ac fe ddywedodd ei fod yn falch iawn bod yr adroddiad yn gweld golau dydd o'r diwedd.

"Fe ddylai hyn fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl," meddai, gan ychwanegu ei fod yntau wedi bod o blaid cyhoeddi ar y pryd.

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Wrecsam: "Yn dilyn cyngor cyfreithiol annibynnol a thrafodaethau gyda'r heddlu ar ran Ymgyrch Pallial i honiadau diweddar o gam-drin plant yn y gorffennol yng ngogledd Cymru, mae'r adroddiad wedi cael ei olygu, ond heb ei gwtogi, gyda rhai enwau a manylion wedi'u croesi allan."

Yn ôl llefarydd ar ran y chwe chyngor yng ngogledd Cymru, maent yn "cydnabod y gallai rhyddhau'r adroddiad achosi loes i nifer o'r rhai a ddioddefodd yn sgil y gamdriniaeth hanesyddol.

"Bydd pob cyngor yn parhau i gefnogi unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth. Yng ngogledd Cymru, mae diogelu plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth amlwg i gynghorau heddiw. Dim ond ychydig iawn o blant sy'n cael eu rhoi mewn gofal erbyn hyn a, phan fo hynny'n digwydd, mae diogelwch, ansawdd y gofal a chanlyniadau i'r unigolyn yn cael eu hadolygu a'u goruchwylio yn ofalus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol