Cwest: Meirion James wedi 'rhoi'r gorau i feddyginiaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest yn Hwlffordd wedi clywed ei bod yn bosib i ymddygiad afreolaidd dyn o Grymych, fu farw yn y ddalfa, gael ei achosi gan ei benderfyniad i roi'r gorau i gymryd meddyginiaethau ar gyfer iselder manig.
Bu farw Meirion James, 53, ar 31 Ionawr 2018 ôl i swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ei atal drwy ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau a chwistrell bupur tra yng ngorsaf Hwlffordd.
Roedd Mr James, cyn-athro, wedi cael ei arestio am ymosod ar ei fam oedrannus.
Oriau yn gynharach roedd wedi cael ei ryddhau o ofal yr heddlu yn Aberystwyth a'i drosglwyddo i Ysbyty Bronglais ar ôl i'w gyflwr fynd yn fygythiol wedi iddo gael ei arestio dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher, dywedodd Dr Martin Mackintosh, meddyg teulu Mr James, fod ei glaf wedi mynegi ei ddymuniad i ddod oddi ar y cyffur lithium - cyffur roedd wedi ei gymryd ers 1992 i dawelu ei feddwl.
'Dim arwydd o dueddiadau manig'
Roedd y cais wedi achosi pryder i Dr Mackintosh gan y byddai dod oddi ar lithium yn rhy gyflym yn gallu arwain at iselder.
Dywedodd y meddyg ei fod wedi ceisio perswadio'r claf i gymryd meddyginiaeth arall o'r enw Sodium Valproate, ond bod Mr James wedi gwrthod.
Ychwanegodd nad oedd wedi cael rheswm i geisio am orchymyn fyddai'n gorfodi'r claf i gymryd cyffuriau yn erbyn ei ewyllys.
Dywedodd, er bod ganddo bryder nad oedd Mr James yn parhau i gymryd lithium, nad oedd arwydd ei fod wedi datblygu tueddiadau manig.
Ar ddechrau'r gwrandawiad ddydd Mercher bu'n rhaid i Dr Mackintosh roi triniaeth frys i aelod o'r rheithgor gafodd ei tharo'n wael yn ystod y gwrandawiad.
Bu'n rhoi triniaeth tra'n aros i ambiwlans gyrraedd.
Pan gafodd Dr Mackintosh ei holi gan y Crwner ynglŷn â chyflwr yr unigolyn dywedodd. "Pe bai hi'n glaf i mi yn bersonol byddwn i ddim yn argymell bod hi'n dod yn ôl i'r cwest.
"Roedd hi'n anymwybodol am beth amser ac roedd ei chalon wedi arafu gymaint fel ein bod ar fin dechrau rhoi CPR."
Cafodd y ddynes ei rhyddhau o'i dyletswyddau gan olygu fod nifer y rheithgor lawr i saith - y lleiafswm sydd ei angen mewn Llys Crwner.
Mae disgwyl i'r cwest bara tan 25 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019