Ymchwilio i farwolaeth bachgen 15 oed o'r Trallwng
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth sydyn bachgen 15 oed o'r Trallwng.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gartref y bachgen ar ddydd Llun, Rhagfyr 24, a cafodd ei gludo i'r ysbyty a'i roi mewn coma.
Bu farw'r bachgen ar ddydd Sadwrn, Ionawr 5.
Mae'r heddlu bellach yn cydweithio â phartneriaid er mwyn cadarnhau'r amgylchiadau arweiniodd at ei farwolaeth, ond nid yw'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.
Mae swyddogion arbenigol eisoes yn cefnogi'r teulu ac yn cydweithio gyda'r ysgol a'r awdurdod lleol.
Dywedodd yr arolygydd Jaqui Lovatt o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r farwolaeth wedi ysgwyd y gymuned leol ac rydyn ni'n cydymdeimlo'n arw gyda'r teulu."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Powys: "Rydyn ni'n ymwybodol o ddigwyddiad ofnadwy yn ymwneud â disgybl o Ysgol Uwchradd Y Trallwng ac yn cydymdeimlo'n fawr gyda'r teulu a ffrindiau."