Cwpan Her Ewrop: Gweilch 18-20 Caerwrangon

  • Cyhoeddwyd
Ceisiau OspreysFfynhonnell y llun, @ospreys
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd ceisiau Keelan Giles ac Olly Cracknell y Gweilch wyt pwynt ar y blaen hanner amser

Roedd yna siom i'r Gweilch yng nghystadleuaeth Cwpan Her Ewrop brynhawn Sadwrn wrth iddynt golli yn y funud olaf i Gaerwrangon.

Roedd yna ddechrau da i'r tîm cartref ar y Liberty er mai Caewrangon a sgoriodd gyntaf ond roedd yna gais buan i'r Gweilch gan Keelan Giles.

Wedi 25 munud roedd yna gic gosb lwyddiannus gan Luke Price ac o fewn munudau cais arall i'r Gweilch gan Olly Cracknell.

Luke Price wedyn yn trosi'n llwyddiannus gan ddod â'r sgôr ar yr hanner i 15-7.

Caerwrangon a sgoriodd gyntaf eto yn yr ail hanner wrth i Ollie Lawrence gael cais ond roedd yna dri phwynt ynddi o hyd gan i'r trosiad fethu.

Fawr o lwc wedyn i'r Gweilch - cerdyn melyn wedi 55 munud i George North wrth i'r ddau dîm geisio cael meddiant yn agos i linell Y Gweilch ac o fewn dwy funud Caerwrangon yn manteisio ar y gosb ac yn sgorio cais arall - a'r ymwelwyr felly ar y blaen (15-17) am y tro cyntaf yn y gêm.

Ond fu ei goruchafiaeth ddim yn hir gan i'r Gweilch fynd un pwynt ar y blaen (18-17) wedi iddynt sicrhau cic gosb.

Roedd hi'n edrych yn debygol iawn y gallai'r Gweilch ennill y gêm o drwch blewyn ond roedd yna siom iddynt yn y funud olaf wrth i Gaerwrangon sgorio tri phwynt.

Y sgôr terfynol Gweilch 18 - 20 Caerwrangon.