Carcharu dyn am herwgipio dau fyfyriwr yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 22 oed o Abertawe wedi ei garcharu am herwgipio dau fyfyriwr ym mis Tachwedd y llynedd.
Fe wnaeth Jack Crocker orfodi'r ddau i mewn i gar tra'n eu bygwth gyda chyllell, cyn eu gyrru o gwmpas y ddinas am dros ddwy awr.
Roedd Crocker yn feddw ac wedi torri fewn i dŷ un o'r dioddefwyr yn ardal Port Tennant.
Fe wnaeth Crocker, o Bort Tennant, gyfaddef byrgleriaeth, herwgipio, bod â chyllell yn ei feddiant, dwyn modur a gyrru tra'i fod wedi ei wahardd.
Cafodd ei garcharu am wyth mlynedd gyda phum mlynedd ychwanegol ar drwydded, a bydd rhaid iddo dreulio o leiaf dwy ran o dair o'r ddedfryd dan glo.
Mae Crocker hefyd wedi'i wahardd rhag gyrru am 100 mis.
Taro dyn
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y dioddefwr cyntaf, myfyriwr prifysgol, wedi clywed sŵn yn ei dŷ a chymryd mai ffrind oedd yn dychwelyd adref.
Ond mewn gwirionedd Crocker oedd yno, ac fe darodd y dyn yn ei wyneb gyda'i ddwrn sawl gwaith.
Clywodd y llys iddo ddweud wrth y dyn y byddai'n eu torri i fyny i ddarnau bychain a'u hanfon nhw at eu rhieni.
Pan ddaeth dyn arall fewn i'r gegin, fe wnaeth Crocker dynnu cyllell allan cyn bygwth y ddau gan ddweud mai ef oedd "berchen y stryd".
Fe wnaeth Crocker orchymyn i gael allweddi'r car oedd yn berchen i un o'r dynion cyn eu gorfodi i mewn.
Dianc
Gyrrodd y car ar gyflymdra am dros ddwy awr gan ddweud wrthyn nhw fod ganddo ddryll, a bygwth taflu bomiau tân at dai eu rhieni.
Daeth y daith i ben pan wnaeth Crocker wrthdaro â char arall cyn dweud wrth y myfyrwyr i adael.
Llwyddodd y ddau i ddianc cyn gofyn i yrwyr eraill am gymorth a galw'r heddlu.
Dywedodd Crocker wrth yr heddlu "pan dwi'n yfed gin dwi ddim yn gwybod beth dwi'n ei wneud".
Dywedodd y Barnwr Keith Thomas wrth y llys fod Crocker wedi gwneud i'r dioddefwyr "ddioddef rhywbeth ofnadwy" sydd wedi achosi niwed seicolegol hir dymor.
Roedd dedfryd estynedig yn "berthnasol i warchod y cyhoedd" meddai.