Datgelu llinell goll y limrig

  • Cyhoeddwyd

Hir yw pob ymaros, ond o'r diwedd mae'r disgwyl ar ben wrth i Cymru Fyw gyhoeddi eich campweithiau ar gyfer llinell goll ein limrig.

Yr wythnos diwetha' fe wnaethom osod her i'n darllenwyr - gorffen limrig i nodi pen-blwydd arbennig rhaglen radio Y Talwrn.

Mae'r rhaglen ar Radio Cymru, lle mae beirdd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd drwy gyfansoddi cerddi, yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Oedd eich llinell chi cystal ag un Geraint Løvgreen?

Felly fe wnaethom ni ofyn i Geraint Løvgreen - sy'n cystadlu efo tîm Caernarfon yn Y Talwrn ers blynyddoedd - sgwennu limrig.

Dyma hi:

Mae'r Talwrn yn ddeugain eleni!

Roedd hanner y beirdd heb eu geni

pan ddechreuodd y sioe -

ond mae'n teimlo fel ddoe

.........?

Fe wnaethom ni ddileu'r linell olaf a gofyn i chi roi cynnig arni.

Mae'r campweithiau wedi ein cyrraedd ni, ac mae'n fraint ac anrhydedd i Cymru Fyw eu cyhoeddi nhw heddiw.

Felly yn nhraddodiad seremoni'r Cadeirio - ond heb gadair, na gwobr, na beirniadaeth, na chlod, na chystadleuaeth, na seremoni, na 'a oes heddwch', na 'HEDDWCH!', na ffanfer, na dim - dyma i chi'r goreuon:

ac yn dal werth pob un ffadan beni! (Emlyn Williams)

Hei lwc am y cant - ewch amdani! (Nia Derec)

Dim ond pumtheg a wen efo acni. (Aled Lewis, Capel Newydd Sir Benfro)

Yr aethom i gyd dros ben llestri. (Dylan)

Ers i ni agor y llenni. (Dylan Ellis)

I greadur o fy oedran i! (Ann Thomas - Caerdydd)

Ers mentro ac agor y llenni. (Glain)

Er gweld bod 'rhen Løvgreen 'di moeli. (Sydney Davies, cyn aelod o dîm y Berwyn)

Hen amser fe ddaw at ddadeni. (Huw Rowlands, Y Fenni)

Am odlau mae pawb yn ymboeni. (John Samuel, Swydd Gaint)

Amser 'di hedfan wrth farddoni. (Lorna Herbert Egan, Llanfairpwll)

I'r gweddill o hyd yn barddoni. (Don Treharne, Pontarddulais )

A wela i'r peth yn dibenni. (David Arwyn Edmunds)

Pan oedd beirdd yn cael deg pwynt gan Gerry. (J L Davies)

Felly heddi mae'n sereni. (Peter Esau)

Pan drechais i'r giwad ym mhen i. (Rós)

Bydd Talwrn am byth hyd y gwn i. (Len Shurey, Caerffili)

Diolch yn fawr i bawb wnaeth anfon llinell!

Ydyn nhw'n rhagori ar linell olaf Geraint Løvgreen i'w limrig ei hun?

Wnawn ni adael i chi benderfynu. Dyma ei gerdd o yn gyflawn.

Mae'r Talwrn yn ddeugain eleni!

Roedd hanner y beirdd heb eu geni

Pan ddechreuodd y sioe -

Ond mae'n teimlo fel ddoe!

Mae o'n amlwg 'di drysu fy mhen i.

Hefyd o ddiddordeb: