Cwest Meirion James: Chwaer yn beirniadu ymateb meddygon

  • Cyhoeddwyd
Meirion JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr James ei arestio ar 30 Ionawr wedi ffrae gyda gyrrwr arall, ac ar 31 Ionawr ar ôl ymosod ar ei fam ei hun

Mae chwaer cyn-athro 53 oed o Grymych a fu farw yn y ddalfa wedi dweud wrth gwest "na ddylai fod wedi marw", gan feirniadu ymatebion meddygon i'w cheisiadau i'w gadw yn yr ysbyty.

Bu farw Meirion James, oedd yn byw gydag iselder manig, ar 31 Ionawr 2018 ôl i swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ei atal yng ngorsaf Hwlffordd drwy ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau a chwistrell bupur.

Roedd wedi cael ei arestio am ymosod ar ei fam oedrannus, ddiwrnod ar ôl cael ei arestio dan y Ddeddf Iechyd Meddwl wedi ffrae gyda gyrrwr yn Llanrhystud.

Cafodd ei drosglwyddo dan ofal yr heddlu i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ar ôl i'w gyflwr fynd yn fygythiol.

Dywedodd chwaer Mr James, Diana Vaughan-Thomas ei bod wedi erfyn ar feddyg yn adran frys yr ysbyty ar 30 Ionawr i'w gadw yno a chynnal asesiad seiciatryddol.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd hefyd y dylai meddyg teulu fod wedi gwneud mwy i ddwyn perswâd ar yr ysbyty i beidio â rhyddhau ei brawd.

'Rhoi'r ffôn i lawr'

Roedd Ms Vaughan-Thomas wedi siarad gyda'r ddau ar y diwrnod y cafodd Mr James ei arestio am y tro cyntaf.

Dywedodd ei bod "yn grac ac eisiau gwybod" beth oedd y sefyllfa pan siaradodd â'r meddyg yn adran ddamweiniau a brys Ysbyty Bronglais yn erfyn arno i gadw Mr James yno ac asesu cyflwr ei feddwl.

"Fe wnaeth y meddyg droi'n ymosodol ar y ffôn a dweud 'ydych chi'n trio dweud wrtha'i sut i wneud fy ngwaith?' a rhoi'r ffôn i lawr," meddai wrth y cwest.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Meirion James ei gludo i orsaf yr heddlu yn Hwlffordd ar ôl cael ei arestio yr eildro

Aeth yn ei blaen i ffonio'i meddyg teulu a dweud ei bod yn poeni am ei brawd. Roedd yntau, meddai, wedi rhoi cyngor iddi bwyso ar yr ysbyty i'w gadw yno a chynnal asesiad seiciatryddol llawn.

Dywedodd wrth y cwest: "Fe yw'r meddyg teulu - nage fi yw'r person proffesiynol... nhw oedd y rheiny."

Wrth orffen rhoi tystiolaeth, fe ychwanegodd yn ei dagrau: "Petai'r meddyg teulu ond wedi gwneud beth ddylse fe wedi gwneud."

Ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty, cafodd Mr James ei hebrwng i'w gartref gan ffrind teulu, ond y bore canlynol fe gafodd ei arestio eto wedi'r ymosodiad ar ei fam.

Dywedodd Ms Vaughan-Thomas bod dau swyddog heddlu wedi ymweld â hi yn ddiweddarach y bore hwnnw i'r dorri'r newydd fod ei brawd wedi marw, a'i bod hithau wedi "gwylltio " wrth glywed beth oedd wedi digwydd.

Mae'r cwest yn parhau.