Addewid o bump-yr-wythnos i achub siop leol rhag cau

  • Cyhoeddwyd
pentrefwyrFfynhonnell y llun, Pobl Isaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 70 o bentrefwyr wedi rhoi addewid i brynu pump neu fwy o eitemau bob wythnos

Mae trigolion pentre' ar gyrion Caerdydd yn rhoi cynnig ar syniad gwreiddiol a gwahanol er mwyn atal eu siop leol rhag cau.

Oherwydd colledion roedd peryg y byddai siop a swyddfa'r post yn Efail Isaf, Rhondda Cynon Taf, yn cau ei drysau.

Ond mae ymgyrch nawr ar droed i gael pobl i wneud addewid i brynu pump-yr-wythnos er mwyn cadw'r lle ar agor.

Dywedodd y perchnogion Vijayananth a Sasi Jaganathan eu bod wedi gorfod torri 'nôl ar eu horiau yn ddiweddar er mwyn lleihau eu colledion.

Yn eu hôl nhw, un o'r prif ffactorau oedd bob pobl yn teithio i archfarchnadoedd.

Joan Smith
Disgrifiad o’r llun,

Byddai colli'r siop yn ergyd yn ôl Joan Smith

Roedd y dyfodol yn edrych yn eitha' du nes i un o'r trigolion, Vicki Worsley, ddechrau ymgyrch.

Doedd hi ddim yn fodlon bodloni ar annog pobl i newid eu harferion siopa yn unig - roedd hi am iddynt arwyddo dogfen yn gwneud addewid i brynu o leiaf pum eitem o'r siop bob wythnos.

"Roeddwn yn gwybod fod y siop yn ei chael hi'n anodd ac roeddwn yn poeni," meddai Ms Worsley.

"Mae mor hawdd mynd i'r archfarchnad, ond mae perchnogion y siop yma wedi dangos ymrwymiad i'r pentre', felly fe ddylwn ni wneud ymrwymiad iddyn nhw hefyd, drwy brynu ychydig eitemau."

Hyd yn hyn mae dros 70 o bobl wedi cytuno i wneud yr addewid.

Vijayananth
Disgrifiad o’r llun,

Dywedod Vijayananth Jaganathan ei fod wedi ei galonogi gan yr ymgyrch

Ymhlith y rhai sydd wedi ymuno yn yr ymgyrch mae Graham Tierney.

"Mae'n anhygoel fel mae'r syniad wedi dal. Mae 'di mynd yn viral," meddai.

"Mae pawb yn ymuno, mae e' ar y dudalen Facebook leol ac mae fel bod e'n gweithio.

"Rydym angen y siop. Ynghyd â'r dafarn, dyma galon y pentre'.

"Maen nhw'n wynebu problem ond fel cymuned fe ddylwn ni fod yn gallu helpu."

'Mwy na siop'

Mae Joan Smith wedi byw yn Efail Isaf am 46 o flynyddoedd ac yn dweud byddai colli'r siop yn ergyd.

"Mae'n fwy na siop, mae'n rhywle i fynd a chwrdd â phobl a sgwrio. Mae'n rhan o fywyd y pentref," meddai.

Efail Isaf Stores

Yn ôl adroddiad gan yr ACS - y gymdeithas sy'n cynrychioli siopau bychain - fydd yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf, mae siopau o'r fath yn chwarae rhan bwysig yn economi pentrefi a threfi bychain yng Nghymru.

Bydd yr adroddiad yn dweud fod bron i 3,000 o siopau yn cyflogi 23,000 o bobl leol.

Dywedodd prif weithredwr ACS, James Lowman, fod y sector yn wynebu cryn heriau.

"Mae'r siopau hyn yn hanfodol i gymunedau ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae busnesau fel banciau a siopau eraill eisoes wedi cau," meddai.

Vicki Worsley
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vicki Worsley fod pentrefwyr wedi dangos ymrwymiad i'r fenter

Mae'r teulu Jaganathan wedi dechrau holi pobl leol ynglŷn â pha eitemau o ddydd i ddydd maen nhw am weld y siop yn ei werthu.

Mae'r ddau hefyd wedi dweud eu bod yn fodlon gwneud colled fechan pe bai'n golygu aros ar agor ar gyfer cwsmeriaid.

"Pan ddywedais ei bod yn bosib ein bod yn gorfod cau, fe roedd rhai o'r cwsmeriaid hyn mewn dagrau," meddai Mr Jaganathan.

"Dydyn nhw ddim yn gwybod beth fyddan nhw'n ei wneud, er mwyn hyd yn oed cael papur newydd neu beint o laeth."

O ddydd Llun, fe fydd y siop yn agor unwaith eto tan 19:30, ac fe fydd y perchnogion yn penderfynu ym mis Ebrill, a ydynt am barhau a'r fenter.