Galw am is-ganghellor Cymraeg i Brifysgol Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor (UMCB) a'r Aelod Cynulliad lleol wedi arwyddo llythyr yn galw ar Brifysgol Bangor i benodi is-ganghellor newydd sy'n medru'r Gymraeg.
Daw hyn ar ôl i'r cyn is-ganghellor, John Hughes ymddeol yn gynnar fis Rhagfyr 2018.
Dywedodd Llywydd UMCB, Gethin Morgan a Sian Gwenllian AC eu bod am weld swydd ddisgrifiad i'r is-ganghellor ble mae'r "Gymraeg yn hanfodol".
Yn y llythyr dywedodd llywydd yr undeb ei fod yn "credu'n gryf y dylai medru'r Gymraeg fod yn hanfodol yn y swydd ddisgrifiad".
Ychwanegodd bod y "Gymraeg yn rhan ganolog o weledigaeth y brifysgol" a bod angen i'r is-ganghellor newydd "ddangos parch a dealltwriaeth at yr iaith".
'Rhan o'n traddodiad'
Wrth gefnogi UMCB, dywedodd Sian Gwenllian ei bod hithau hefyd yn credu bod cyflogi is-ganghellor sy'n medru'r Gymraeg yn hollbwysig er mwyn "cynnal yr ethos ieithyddol unigryw Gymraeg a Chymreig y Brifysgol".
Ychwanegodd yr AC Plaid Cymru dros Arfon fod yr alwad yn "dod ar yr un pryd â'r bygythiad o doriadau ac mae'n holl bwysig bod penderfyniadau doeth yn cael eu gwneud ynghylch a chan arweinyddiaeth y Brifysgol".
Ymhlith gofynion UMCB a Sian Gwenllian mae:
cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn fewnol yn y brifysgol;
bod ar flaen y gad o ran datblygu technolegau iaith;
bod yn ganolfan o ragoriaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan allweddol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ar hyn o bryd y darpar is-ganghellor Graham Upton sydd wrth y llyw, wrth i'r brifysgol chwilio am is-ganghellor newydd.
Mae disgwyl i'r brifysgol benodi is-ganghellor newydd ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018