Fishlock yn dychwelyd i wynebu'r Eidal

  • Cyhoeddwyd
Jess FishlockFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fishlock yn dychwelyd

Mae rheolwr tîm merched Cymru, Jayne Ludlow, wedi cyhoeddi carfan o 24 i wynebu'r Eidal mewn gêm gyfeillgar yn Cesena ar 22 Ionawr.

Fe fydd chwaraewr mwyaf profiadol Cymru, Jess Fishlock, yn dychwelyd ar ôl methu gemau cyfeillgar yn erbyn Portiwgal ym mis Tachwedd.

Ymhlith y garfan mae pedwar fyddai'n ennill eu capiau cyntaf os fyddan nhw'n chwarae sef Cori Williams, Emma Jones a Grace Horrell o Gaerdydd ac Anna Filbey o glwb Tottenham Hotspur.

Mae wyth aelod o'r garfan dan 21 oed.

Bydd yr enwau cyfarwydd fel Loren Dykes yn dychwelyd a bydd yna gyfle i Hayley Ladd ennill cap rhif 50.

Er bod Kayleigh Green wedi ei henwi ar gyfer y gwersyll hyfforddi, ni fydd yn gallu chwarae yn y gêm ar ôl cael cerdyn coch yn erbyn Portiwgal ym mis Tachwedd.

Carfan Cymru:

Laura O'Sullivan (Caerdydd), Claire Skinner (Caerdydd), Sophie Ingle (Chelsea), Hayley Ladd (Birmingham City), Loren Dykes (Bristol City), Megan Wynne (Tottenham Hotspur), Gemma Evans (Bristol City), Ffion Morgan (Caerdydd), Nadia Lawrence (Caerdydd), Rhiannon Roberts (Lerpwl), Charlie Estcourt (Reading), Cori Williams (Caerdydd), Natasha Harding (Reading), Anna Filbey (Tottenham Hotspur), Angharad James (Everton), Elise Hughes (Everton), Jess Fishlock (Lyon - ar fenthyg o Seattle Reign), Kayleigh Green (Brighton & Hove Albion), Gwen Davies (Caerdydd), Kylie Nolan (Caerdydd), Ella Powell (Georgia State University), Helen Ward (Watford Ladies FC), Emma Jones (Caerdydd), Grace Horrell (Caerdydd).