Teyrngedau i'r AC Steffan Lewis yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Steffan LewisFfynhonnell y llun, Plaid Cymru

Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi yn y Senedd i'r Aelod Cynulliad, Steffan Lewis, a fu farw ddydd Gwener yn 34 oed.

Roedd yna funud o dawelwch ar ddechrau sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog wrth i aelodau o bob plaid wleidyddol ei gofio, gydag aelodau o'i deulu yn bresennol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn un o wleidyddion "fwyaf galluog ein cenhedlaeth".

Bu farw'r AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru o ganser y coluddyn, gan adael gweddw, Shona, a mab tair oed, Celyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae baneri wedi eu gostwng i hanner mast y tu allan i'r Senedd er cof am Steffan Lewis

Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wnaeth arwain y teyrngedau, gan ddisgrifio Mr Lewis fel "cawr" sydd wedi "gosod y sylfeini ar gyfer cenedlaethau i ddod".

"Cenedl fach ydym ni, ond bob hyn a hyn rydym yn magu cawr," dywedodd.

"Doedd Steffan byth yn gwneud dim byd ar ei hanner. Roedd yn ddiffiniad o Gymro.

"Ni fydd yn gweld y Gymru oedd o eisiau, ond mae o wedi llunio'r ffordd ar gyfer plant y dyfodol.

"Fe wnest ti ni'n falch ohonot Steffan. Yn falch i dy nabod, i dy alw yn ffrind ac yn gydweithiwr. Fe wnest ti ni'n falch i fod yn Gymry."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif y Weinidog Mark Drakeford fod Steffan yn ddyn 'uchel ei barch'

Ychwanegodd Mr Drakeford fod y "teimlad o dristwch yn amlwg".

"Roedd yn un o wleidyddion fwyaf gweddus a galluog ein cenhedlaeth.

"Yn ddyn meddylgar, call ac yn driw. Yn ddyn doniol, rhywun oeddech yn dysgu lot gan ac eisiau bod yn ei gwmni."

'Llais ei bobl'

Dywedodd Paul Davies ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ei fod yn estyn ei "gydymdeimlad dwysaf i deulu Steffan".

"Roedd yn ddyn amlwg iawn yn ei blaid cyn cael ei ethol ac roedd wastad yn sicrhau fod llais ei bobl yn cael ei glywed.

"Roedd y siambr yn dawel pan roedd o'n siarad.

"Dylai pob siambr gael Steffan - 'dan ni'n drist ein bod ni wedi colli un ni."

Dywedodd David Rowlands ar ran UKIP bod Mr Lewis yn "hynod alluog a chwrtais".

Disgrifiad o’r llun,

Y cyn arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn talu teyrnged

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei fod yn ddyn "triw ac onest".

Roedd Mr Lewis yn arfer ysgrifennu areithiau ar ei chyfer cyn cael ei ethol fel Aelod Cynulliad ei hun.

"Hwn, mae'n debyg, yw'r araith anoddaf i mi orfod ei wneud yn y 15 mlynedd rwyf wedi gweithio yn y Senedd," dywedodd Ms Wood.

"Mae Steffan yn golled i'r wlad ac i'n dyfodol."

Gorffennodd ei haraith drwy gyffwrdd sedd wag Mr Lewis gan ddweud: "Nos da, Steff."

Mae baneri wedi eu gostwng i hanner mast y tu allan i'r Senedd, ac mae llyfr cydymdeimlad wedi ei agor yno i gydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd ysgrifennu eu teyrngedau iddo.