Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ym Maerdy
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn lleol 73 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Maerdy, Rhondda, ddydd Sul.
Bu farw Malcolm Morgan wedi'r gwrthdrawiad yn Stryd Oxford toc wedi 08:30 fore Sul.
Cafodd yr heddlu eu galw yno wedi i'r fan Ford Transit roedd Mr Morgan yn ei yrru fwrw fan arall oedd wedi ei barcio ar y stryd.
Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel "gŵr, tad a thad-cu cariadus".
Dywed datganiad y teulu: "Roedd yn uchel ei barch yn y gymuned - roedd gymaint o bobl yn ei garu."
"Roedd ei gariad at ei golomennod yn gyrru ei deulu o'u co' - fe oedd un hanner o bartneriaeth rasio colomennod Newman a Morgan, gan rasio i glwb Ynyshir."
Mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teulu ac mae'r heddlu'n parhau i apelio i dystion posib am wybodaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2019