Valero: Symud offer atal olew o Aberdaugleddau

  • Cyhoeddwyd
Ffatri yn AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Geograph/Dylan Moore
Disgrifiad o’r llun,

Fe lifodd olew i'r aber ger purfa Valero yn Aberdaugleddau

Bydd offer gafodd ei osod yn gynharach yn y mis i gyfyngu gollyngiad olew yn y môr yn Sir Benfro yn cael eu symud oddi yno.

Cafodd y trawstiau eu gosod ar ôl i gwmni Valero amcangyfrif bod rhwng 7,500 a 10,000 o litrau o olew wedi llifo i'r aber ger eu purfa yn Aberdaugleddau ar 3 Ionawr.

Ond y gred erbyn hyn yw bod y ffigwr hwnnw tua 500 litr.

Roedd yr offer wedi eu gosod er mwyn atal llygredd rhag gwasgaru.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) maen nhw'n "fodlon eu bod wedi rheoli lledaeniad cymaint â phosibl o'r olew" ac mae disgwyl tynnu'r offer ddydd Iau.

Dywedodd CNC bod Valero wedi "glanhau unrhyw olew a ddarganfuwyd ar draethau lleol yn unol â chyngor swyddogion CNC".

Yn dilyn y digwyddiad cafodd Valero orchymyn i gau dwy bibell olew ar y safle.

'Ymateb cyflym'

Mae'r pibellau hyn yn parhau i fod ar gau tan fydd CNC yn fodlon na fydd yna "amharu ar yr amgylchedd lleol".

Yn ôl CNC mae "Valero bellach yn credu fod yna 500 litr o olew wedi cael ei ollwng yn ystod y digwyddiad ar 3 Ionawr - llawer llai na'r hyn ofnwyd yn wreiddiol".

Ffynhonnell y llun, Maritime and Coastguard Agency
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r awyr yn dangos gweddillion yr olew yn gwasgaru trwy'r môr

Dywedodd Andrea Winterton, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru fod "llawer o'r llygredd wedi'i atal rhag lledaenu a'i lanhau'n gyflym oherwydd yr ymateb cyflym".

"Mae ein hymchwiliad yn parhau wrth i ni ystyried pa gamau pellach mae angen i ni gymryd i atal hyn rhag digwydd eto," meddai.

Mae CNC yn gofyn i bobl sy'n byw yn yr ardal i roi gwybod am unrhyw arwyddion o lygredd drwy ffonio'r llinell gymorth ar 03000 65 3000.