Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Sheffield United
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Abertawe i drechu un o geffylau blaen y Bencampwriaeth mewn gêm agos yn Stadiwm Liberty.
Dechreuodd Sheffield United yn dda gan orfodi golwr Abertawe, Erwin Mulder, i wneud sawl arbediad yn yr hanner cyntaf.
Tyfu mewn i'r gêm wnaeth yr Elyrch, ac yn dilyn gwaith da gan Nathan Dyer fe roddodd Ollie McBurnie y tîm cartref ar y blaen wedi 65 munud.
Parhau i reoli'r gêm wnaeth Abertawe, ac oni bai am berfformiad ardderchog gan Dean Henderson byddai hi wedi bod yn ddiweddglo llawer fwy cyfforddus i'r Elyrch.
Golygai'r fuddugoliaeth fod tîm Graham Potter yn codi i'r nawfed safle yn y tabl - chwe phwynt oddi wrth y gemau ail gyfle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019