Y Gynghrair Genedlaethol: AFC Fylde 2-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ashley HemmingsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ashley Hemmings sgoriodd y ddwy i AFC Fylde

Mae AFC Fylde wedi codi uwchben Wrecsam yn y tabl ar ôl i'r Dreigiau golli eu pedwaredd gêm yn olynol.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen munudau cyn yr egwyl, ar ôl i ergyd nerthol Ashley Hemmings hedfan heibio golwr Wrecsam, Rob Lainton.

Sgoriodd Hemmings ei ail gydag ergyd gywir arall yn dilyn gwrthymosodiad sydyn.

Dywedodd rheolwr Wrecsam, Graham Barrow, fod perfformiad yr ail hanner yn "ofnadwy o siomedig" a bod rhai o'r camgymeriadau yn "annerbyniol".

Mae Wrecsam yn disgyn i'r pumed safle yn y tabl.