Marwolaeth dyn yn y ddalfa â ffactorau 'cymhleth'
- Cyhoeddwyd
Roedd amrywiaeth "gymhleth" o ffactorau ynghlwm â marwolaeth dyn o Sir Benfro, yn ôl dau batholegydd sy'n anghytuno ynghylch pam yn union y bu farw.
Bu farw Meirion James yn Ionawr 2015 ar ôl i swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau ac offer chwistrellu er mwyn ei atal yng ngorsaf heddlu Hwlffordd.
Mae'r cwest i achos y dyn 53 oed o Grymych eisoes wedi clywed bod ganddo hanes hir o fyw gydag iselder manig.
Yn eu tystiolaeth roedd y patholegwyr yn cytuno bod ei gyflwr meddyliol a chorfforol, a'r ffordd y cafodd ei atal, yn ffactorau arwyddocaol, ond mae'r ddau wedi dod i gasgliadau gwahanol ynghylch achos meddygol y farwolaeth.
Dywedodd Dr Derek James wrth y gwrandawiad yn Hwlffordd bod Mr James wedi dioddef pwysau meddyliol a ffisiolegol eithriadol - gan gynnwys ofn, cynnwrf a phwysedd gwaed uchel - a fyddai wedi creu sefyllfa "wenwynig".
Ar ben hynny, meddai, roedd yn amhosib gweld beth yn union ddigwyddodd o edrych ar luniau CCTV o'r hyn ddigwyddodd yn y ddalfa, ac o'r herwydd roedd yn amhosib iddo ddweud â sicrwydd bod y dulliau atal yn fwy arwyddocaol na'r ffactorau eraill.
Ond fe ddywedodd yr Athro Jack Crane wrth y cwest bod Mr James wedi methu ag anadlu yn sgil cael ei ddal yn gorwedd ar ei stumog ar y llawr am gyfnod o amser, ag yntau'n ordew, ac mai dyna oedd ffactor mwyaf arwyddocaol y farwolaeth.
Roedd Dr James o'r farn bod hi'n dal yn bosib i berson gael digon o ocsigen i anadlu mewn sefyllfa o'r fath, ond bod mathau eraill o bwysau dwys ar y corff a'r meddwl hefyd yn gallu cyfuno mewn ffordd "gymhleth" ac arwain at farwolaeth.
Roedd y ddau yn cytuno na fu farw Mr James o ganlyniad y 55 o anafiadau oedd ar ei gorff, a bod rhai o'r rheiny, yn fwy na thebyg, o ganlyniad ceisio ei adfywio.
Doedden nhw ddim ychwaith o'r farn bod salwch neu ddefnydd cyffuriau yn ffactor.
Maen nhw hefyd yn cytuno nad oedd defnyddio chwistrell PAVA i'w lonyddu yn arwyddocaol, ond bod hynny o bosib wedi achosi i Mr James deimlo fwy o bwysau yn ffisiolegol wrth gael ei atal.
Mae'r cwest yn parhau.