Cig oen o Seland Newydd 'ddim yn fygythiad' i ffermwyr

  • Cyhoeddwyd
Defaid Bannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Chris Jackson/Getty Images

Ni ddylai ffermwyr cig oen Cymru boeni am fwy o gynnyrch o Seland Newydd yn dod i'r DU yn dilyn Brexit, yn ôl prif weinidog Seland Newydd.

Dywedodd Jacinda Ardern y byddai siopwyr Prydain hefyd yn elwa o gytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y ddwy wlad.

Daw ei sylwadau cyn iddi gwrdd â Theresa May, gyda Mrs May eisoes wedi sôn am botensial cytundeb masnach o'r fath.

Ond yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai mewnforion o Seland Newydd ddinistrio'r diwydiant cig oen yng Nghymru.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru hefyd wedi rhybuddio am y posibilrwydd na allai cig oen o Gymru gystadlu o ran pris.

Fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd, dyw'r Deyrnas Unedig ddim yn gallu llunio cytundebau masnach rhyngwladol.

Mae Mrs May wedi dweud ar sawl achlysur mai un o'r prif amcanion wedi Brexit yw dod i gytundebau unigol gyda gwahanol wledydd o amgylch y byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jacinda Ardern gwrdd â Theresa May ddydd Llun

Ddydd Llun dywedodd Jacinda Ardern wrth y BBC: "Yn amlwg fel partner masnachu pwysig i ni, pan fydd y DU yn barod rydym yn awyddus i ddod i gytundeb masnach rydd rhwng y ddwy wlad."

Wrth gael ei holi ynglŷn â chynnyrch fel cig oen yn dod i'r DU wedi Brexit dywedodd: "Ein hamcan yw ei gwneud yn haws i nwyddau o Seland Newydd gyrraedd marchnadoedd, a hynny drwy gael gwared ar unrhyw rwystrau.

'Manteision posib'

"Dwi ddim yn credu y dylai'r farchnad ddomestig na chynhyrchwyr bwydydd yn y DU fod yn betrusgar am fwy o nwyddau o Seland Newydd, oherwydd fel enghraifft o ran y tymhorau rydym yn aml yn gallu bod o gymorth - pan rydych chi yn y gaeaf mae'n haf yma.

"Felly mae yna fanteision i'r marchnadoedd o gael mwy o fynediad i'w gilydd," meddai.

Mae Seland Newydd yn allforio tua 80% o'u cynnyrch cig oen bob blwyddyn, a dyma hefyd y wlad sy'n allforio'r mwyaf o gig oen i'r DU.