Chwe chefnogwr wedi'u gwahardd am 'ymddygiad hiliol'
- Cyhoeddwyd
Mae CPD Wrecsam wedi cadarnhau eu bod wedi gwahardd chwe chefnogwr am gyflawni "nifer o droseddau" yn ystod gêm yn erbyn Dover Athletic ar y Cae Ras.
Fe gafodd ymchwiliad ei lansio fewn i "ymddygiad gwahaniaethol" honedig yn dilyn y gêm yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr ar 5 Ionawr eleni.
Mae pedwar cefnogwr wedi derbyn gwaharddiad o bum mlynedd, un cefnogwr wedi ei wahardd am dair blynedd a'r llall am flwyddyn.
Dywedodd datganiad gan y clwb: "Nid yw CPD Wrecsam yn goddef unrhyw fath o wahaniaethu neu ymddygiad gwrth gymdeithasol.
"Mae'r gwaharddiadau yma wedi eu gosod o ganlyniad i sawl trosedd sy'n mynd yn groes i reolau mynediad i'r stadiwm.
"Mae'r gwaharddiadau yma'n cynnwys pob gêm neu ddigwyddiad ar y Cae Ras ac unrhyw daith oddi cartref sydd wedi'i drefnu gan y clwb," meddai.
Roedd yr ymchwiliad gan y clwb yn rhedeg ochr yn ochr ag ymchwiliad yr heddlu fewn i "ymddygiad hiliol ac annerbyniol honedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019