Atal y chwilio am awyren yn cludo Emiliano Sala am y dydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r chwilio am yr awyren a ddiflannodd wrth gludo ymosodwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd i'r ddinas wedi dod i ben am y dydd.
Cadarnhaodd Heddlu Guernsey eu bod wedi rhoi'r gorau i chwilio dros nos, a'u bwriad yw parhau gyda'r chwilio fore Mercher.
Cadarnhaodd Awdurdod Hedfan Sifil Ffrainc bod ymosodwr newydd Clwb Pêl-droed Caerdydd, Emiliano Sala, ar awyren fechan sydd wedi diflannu wrth deithio i'r ddinas.
Roedd timau achub yn chwilio am yr awyren, oedd ag un person arall arni, wedi iddi ddiflannu oddi ar sgriniau radar ar ôl gadael Nantes am 19:15 nos Lun.
Ond gyda'r tywydd yn gwaethygu dywedodd awdurdodau Ynysoedd y Sianel nad oedden nhw'n rhagweld bod unrhyw un wedi goroesi.
Mae tad y pêl-droediwr wedi dweud wrth y cyfryngau yn Yr Ariannin bod y teulu yn "poeni'n ddirfawr" a methu credu beth sydd wedi digwydd, ond yn "gobeithio am y gorau".
Fe wnaeth yr ymosodwr 28 oed o'r Ariannin arwyddo cytundeb dros y penwythnos i ymuno â Chaerdydd o Nantes am £15m - y swm uchaf erioed i'r Adar Gleision dalu am chwaraewr.
Yn ôl Heddlu Guernsey, fe ddiflannodd yr awyren Piper Malibu dros Fôr Udd am tua 20:30 nos Lun.
Dywedodd llefarydd bod yr awyren yn hedfan ar uchder o 5,000 o droedfeddi pan gysylltodd y peilot â chanolfan rheoli traffig awyr yn Jersey yn gofyn am ganiatâd i lanio.
Pan gollwyd cysylltiad â'r awyren roedd yn hedfan ar uchder o 2,300 o droedfeddi.
Roedd Maes Awyr Caerdydd wedi cadarnhau bod awyren i fod wedi glanio yno nos Lun.
Dywedodd prif weithredwr CPD Caerdydd fod y clwb mewn "sioc" a bod sesiwn ymarfer y tîm cyntaf ddydd Mawrth wedi'i ohirio.
"Mae'n perchennog ni, Tan Sri Vincent Tan, a'r cadeirydd, Mehmet Dalman, yn poeni'n fawr am y sefyllfa," meddai Ken Choo.
"Fe wnaethon ni'r penderfyniad y peth cyntaf y bore 'ma i ohirio'r ymarfer gyda meddyliau'r garfan, y tîm rheoli a'r clwb oll gydag Emiliano a'r peilot.
"Hoffen ni i gyd ddiolch i'n cefnogwyr, ac i'r teulu pêl-droed i gyd am eu cefnogaeth ar amser mor anodd.
"Rydym yn parhau i weddïo am newyddion positif."
Ailddechrau chwilio
Mae criwiau a hofrenyddion Gwylwyr y Glannau Ynysoedd y Sianel wedi bod yn chwilio am yr awyren mewn ardal 1,000 milltir sgwâr i'r gogledd-orllewin o Alderney, ger goleudy Les Casquets, ac mae criwiau o'r DU wedi ymuno â'r ymgyrch.
Bu'n rhaid iddyn nhw roi'r gorau iddi dros dro am 02:00 wedi i'r tywydd waethygu, ond fe ailddechreuodd y chwilio am 08:00 fore Mawrth, gyda hofrenyddion, awyrennau a badau achub yn rhan o'r gwaith.
Erbyn prynhawn Mawrth roedd rheolwyr y criwiau achub yn dweud nad ydyn nhw'n rhagweld bod unrhyw un wedi goroesi wedi i'r awyren "ddiflannu'n llwyr".
Dywedodd prif swyddog Channel Islands Air Search, John Fitzgerald bod y siawns i ddod o hyd i unrhyw un yn fyw "yn pylu o hyd", gan fod tymheredd dŵr yn "oer iawn, iawn".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Guernsey bod y môr wedi bod yn fwy llonydd ddydd Mawrth, a bod criwiau achub wedi gallu gweld yn bell ond bod yr amodau unwaith eto "yn gwaethygu".
"Mae awdurdodau'r DU wedi bod yn galw meysydd awyr ar hyd arfordir y de i weld a yw wedi glanio yno," meddai.
"Hyd yn hyn does dim cadarnhad bod hynny wedi digwydd. Mae'r chwilio yn parhau a bydd penderfyniad gyda machlud yr haul ynghylch parhau i chwilio dros nos."
Dywedodd harbwrfeistr Guernsey, y Capten David Barker bod hi'n "anodd dweud... a gafodd yr awyren ei dargyfeirio i faes awyr arall, ynteu a ydy hi wedi mynd i drafferthion".
Ychwanegodd y bydd unrhyw benderfyniad i ddod â'r chwilio i ben yn un "anodd".
Dywedodd gohebydd pêl-droed BBC Cymru, Rob Phillips bod Clwb Pêl-droed Caerdydd "yn ceisio cael mwy o oleuni am beth sydd wedi digwydd ond mae yna bryder gwirioneddol dros Sala o fewn y clwb".
"Fe deithiodd ddwywaith o Nantes i Gaerdydd wythnos diwethaf. Y tro cyntaf oedd i gael golwg ar y lle a'i eildro oedd i arwyddo," meddai.
"Fe gafodd e ffarwel fawr yn Nantes ddoe, ac roedd i fod i hyfforddi gyda'i gyd-chwaraewyr newydd y bore 'ma."
Mae gêm nos Fercher rhwng Clwb Pêl-droed Nantes ac Entente Sannois wedi cael ei gohirio tan ddydd Sul, ac mae cefnogwyr a thrigolion Nantes yn trefnu gwylnos nos Fawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2019