Ymgais ffermwyr ifanc i geisio chwalu stigma iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Rhys Richards, Carwyn Jones, Gareth Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Richards (chwith) Carwyn Jones (canol) a Gareth Thomas (dde) yn aelodau o Fudiad ffermwyr ifanc Môn

Am y tro cyntaf erioed mae mudiad ffermwyr ifanc ym Môn ac Eryri yn trefnu noson ar y cyd i drafod problemau iechyd meddwl yng nghefn gwlad.

Mae ffermio yn un o'r diwydiannau sydd â'r gyfradd uchaf o hunanladdiadau, ac mae'r ffermwyr ifanc yn teimlo ei bod hi'n addas trafod y mater yn agored gyda phobl eraill yn y diwydiant.

Nod y noson ym Mhorthaethwy yw ceisio codi ymwybyddiaeth ac annog aelodau'r mudiad i ofyn am gymorth os ydyn nhw'n cael problemau.

Dywedodd un o'r aelodau, Gareth Thomas o Gemaes: "Dwi'n teimlo fod 'na stigma yng nghefn gwlad, 'dach chi fod yn berson macho, 'dach chi'n gorfod bod yn gryf i fod yn ffermwr, a'r stigma yna 'dan ni'n gobeithio ei chwalu.

'Iawn i siarad'

Aelod arall yw Carwyn Jones o Lannerch-y-medd ac mae'n pwysleisio y dylai pobl dan 50 yn enwedig "sgwrsio" mewn amgylchiadau o'r fath.

"Er mwyn codi ymwybyddiaeth, y ffordd o'i chwmpas hi yw sgwrsio amdano, yn enwedig efo pobl dan hanner cant. Dyna'r oedran 'dan ni yn ei dargedu, mae'n bwysig trefnu'r noson.

"Mae hi'n bwysig i ddynion sylweddoli fod hi'n iawn i siarad ac agor allan ynglŷn â'u teimladau," meddai.

Disgrifiad,

Mae Rhys Richards yn dweud ei bod hi'n "bwysig" fod pynciau fel iechyd meddwl yn cael eu trafod yn agored rhwng ffermwyr ifanc

Ychwanegodd Mr Thomas: "Mae amaethu yn gallu bod yn reit unig.

"Dwi'n treulio lot o fy ngwaith ar fy mhen fy hun ... mae canran y rhai sy'n lladd eu hunain yn y diwydiant yn uchel ofnadwy.

"Weithiau dydy rhai ffermwyr ddim yn gweld pobl tan maen nhw'n mynd i'r sêl a dyna'r adeg maen nhw'n cael cyfle i drafod pethau efo pobl eraill," meddai.

Gobaith y ffermwyr yw bydd noson debyg yn gallu cael ei threfnu eto, er mwyn ceisio osgoi ac i drafod problemau iechyd meddwl a sut mae modd cael cymorth os oes unrhyw un yn dioddef.

Dywedodd Rhys Richards o Lannerch-y-medd:"Mae hi'n bwysig mewn cymdeithas cefn gwlad fod noson fel hyn yn cael ei chynnal, neu fel arall fasa'r pwnc ma' ddim yn cael ei drafod.

"Os dydy pobl ddim yn trafod y math yma o beth mae pethau'n gallu mynd yn ddrwg," ychwanegodd.