Cynnal angladd cyn-AC Plaid Cymru, Steffan Lewis
- Cyhoeddwyd

Cafodd angladd cyn-AC Plaid Cymru, Steffan Lewis ei gynnal yn Abercarn ddydd Gwener.
Bu farw'r aelod dros Ddwyrain De Cymru o ganser y coluddyn yn 34 oed yn gynharach yn y mis, gan adael gweddw, Shona, a mab tair oed, Celyn.
Cafodd ddiagnosis o ganser cyn Nadolig 2017, a chael gwybod ei fod wedi lledu i rannau eraill o'i gorff.
Roedd gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Gymraeg Abercarn, Caerffili cyn gwasanaeth i'r teulu yn unig ym Mynwent Abercarn.
'Un o fawrion y genedl'
Wrth arwain y teyrngedau, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod Mr Lewis yn haeddu cael ei ystyried fel un o fawrion y genedl.
Roedd y prif weinidog Mark Drakeford, y cyn-brif weinidog Carwyn Jones ac arweinydd y Ceidwadwyr o fewn y Cynulliad, Paul Davies ymysg y cannoedd o bobl a fynychodd y seremoni.
Ychwanegodd Mr Price fod Mr Lewis yn unigolyn "galluog a gonest" oedd "wedi ennill achubiaeth drwy ei wasanaeth i Gymru".
"Roedd wir yn rhodd i'r genedl," meddai.
Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddisgrifio Mr Lewis fel "un o'r gwleidyddion fwyaf gweddus a galluog ein cenhedlaeth".
"Yn ddyn meddylgar, call ac yn driw. Yn ddyn doniol, rhywun oeddech yn dysgu lot gan ac eisiau bod yn ei gwmni."

Roedd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, ymysg y rhai a ddaeth i roi teyrnged i Mr Lewis

Roedd nifer o'i gyd-wleidyddion yn bresennol, gan gynnwys AS Plaid Cymru yng Ngheredigion, Ben Lake
Cafodd Mr Lewis ei fagu yng nghymoedd Gwent, gan fynychu Ysgol Gynradd Swffryd cyn symud i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn Abercarn ac yna i Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Gwnaeth y penderfyniad yn ifanc ei fod eisiau gyrfa wleidyddol ar ôl i'w dad fynd ag o i gyfarfod Plaid Cymru.
Daeth ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn naturiol, meddai, wedi ei fagu mewn cartref dwyieithog yn y Coed Duon lle'r oedd gwleidyddiaeth yn cael ei drafod ar yr aelwyd.

Bu Steffan Lewis yn AC ers Mai 2016
'Ergyd waethaf'
Mewn datganiad wedi ei farwolaeth, dywedodd ei deulu: "Colli Steffan yw'r ergyd waethaf bosib i'n teulu ni ac rydym yn gwybod bod pobl ledled Cymru yn rhannu ein galar.
"Roedd Steff yn ein hysbrydoli ni bob dydd. Roedd e'n graig i ni, yn angor ac yn fwy na hynny yn arwr i ni. Yn anad dim, roedd yn ŵr, tad, mab a brawd cariadus.
"Fe frwydrodd Steffan yn erbyn ei salwch gyda'r un dewrder a phenderfyniad a oedd yn ei wleidyddiaeth, a hyd yn oed pan roedd e mewn poen ddifrifol, fe wnaeth e barhau i wasanaethau'r bobl roedd e wrth ei fodd yn eu cynrychioli."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017