'Pam fod plant yn colli allan ar daliadau'r wlad?'

  • Cyhoeddwyd
teuluFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Arwel Pritchard, Donna McClelland a'u meibion

Mae achos dyn o Bwllheli, sy'n methu cael taliadau galar am nad oedd ef a'i bartner am 24 blynedd yn briod, wedi cael ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin.

Bu farw Donna Clare McClelland, mam i ddau o blant, fis Mai'r llynedd o ganser y fron - ond ofer fu ymdrechion ei phartner Arwel Pritchard i gael taliadau ar gyfer y teulu gan yr Adran Waith a Phensiynau.

Ddydd Mercher yn Nhŷ'r Cyffredin fe wnaeth AS Mr Pritchard, Liz Saville Roberts, ddweud fod y drefn bresennol yn cosbi plant a bod angen gweithredu ar frys i newid y sefyllfa.

"Pan fu Donna farw, nid yn unig yr oedd Arwel yn wynebu gofalu am eu plant fel rhiant sengl ond roedd ei gyfnod galaru yn cael ei gymhlethu wrth iddo wynebu pob math o rwystrau biwrocratig..." meddai AS Plaid Cymru, Dwyfor Meirionnydd.

"Mae'n ymddangos fod y ddeddfwriaeth bresennol yn anffafriol i gyplau sy'n penderfynu peidio priodi ond eto yn gallu dwyn eu plant i fyny mewn awyrgylch cariadus, teuluol."

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud fod yna lwfansau ar gael i helpu pobl yn ystod cyfnod o alar.

Disgrifiad o’r llun,

Liz Saville Roberts: 'Angen newid y drefn ar frys'

Fe wnaeth Mr Pritchard, sy'n blismon, gwrdd â'i bartner yng Ngholeg Meirion Dwyfor 24 o flynyddoedd yn ôl.

"Ar ôl bod hefo'n gilydd roedd Donna a fi wedi penderfynu prynu tŷ yn lle priodi. Oherwydd bod cyflogau ddim yn grêt yn yr ardal yma fe wnaethom benderfyniad anodd i brynu tŷ yn lle priodi.

"Ac yna daeth y plant..."

Yn anffodus bu farw Donna o ganser y fron ym mis Mai'r llynedd.

"Ond oherwydd bod ddim perthynas gwaed do' ni ddim yn cael fy nhrin fel next of kin.

"Ro' nhw'n dweud er mwyn actio ar ei rhan hi fod yn rhaid cael caniatad next of kin mewn llawysgrifen."

Goruchaf Lys

Dywedodd Mr Pritchard wrth BBC Cymru Fyw mai plant teuluoedd di-briod sy'n dioddef o dan y drefn bresennol.

"Dydi plant ddim yn cael dewis pa gartref ma' nhw fod, os yda nhw deulu priod neu ddim.

"Pam fod plant yn colli allan ar daliadau'r wlad, mae'r gwahaniaethu yn ofnadwy ac yn annheg?"

Dywedodd fod y cyfnod yn dilyn marwolaeth ei bartner wedi bod yn ofnadwy oherwydd nid yn unig y galar ond gorfod delio â'r holl sefyllfa ariannol.

"Den ni dal heb gael ateb iawn gan y wlad."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel Pritchard yn dweud fod y drefn bresennol yn cosbi'r plant

Wrth annerch aelodau Tŷ'r Cyffredin dywedodd Ms Roberts fod y goruchaf lys wedi penderfynu bum mis yn ôl fod y polisi presennol yn camwahaniaethu yn erbyn plant.

"Mae dros 2,000 o deuluoedd y flwyddyn yn colli allan ar dderbyn budd-daliadau galar oherwydd y ddeddfwriaeth bresennol.

"Bu fy etholwraig Donna McClelland farw ar 20 Mai llynedd, gan adael dau fab ifanc a'i phartner am bedair blynedd ar hugain, Arwel Pritchard.

"Roeddynt wedi dyweddïo, ond blaenoriaethwyd prynu tŷ dros briodi. Roedd yn bwysicach rhoi cartref i'w plant," meddai.

"Pan fu Donna farw, nid yn unig roedd Arwel yn wynebu gofalu am eu plant fel rhiant sengl ond roedd ei gyfnod galaru yn cael ei gymhlethu wrth iddo wynebu pob math o rwystrau biwrocratig i brofi mai ef oedd perthynas agosaf Donna, i geisio am gymorth ariannol i gefnogi ei deulu.

"Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i weithredu yn ddiymdroi a chymryd pob cam posib i ddiwygio'r gyfraith er budd teuluoedd mewn galar fel Arwel'."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau: "Rydym wedi ymroi i gefnogi pobl yn ystod eu galar ac yn cynnig ystod o gefnogaeth, gan gynnwys Taliadau Cost Claddedigaeth sy'n gallu rhoi cyfraniad pwysig tuag at gostau angladd. "