Cwest: Rheithgor i ystyried y dystiolaeth yn unig
- Cyhoeddwyd
Mae crwner y cwest i farwolaeth dyn yn y ddalfa yn Sir Benfro wedi galw ar y rheithgor i ystyried y dystiolaeth yn unig wrth ddod i ganlyniad.
Ddydd Mercher fe wnaeth Paul Bennett, y crwner cynorthwyol, grynhoi y dystiolaeth sydd wedi'i chlywed yn ystod y bythefnos ddiwethaf, cyn i'r rheithgor ystyried ddydd Iau.
Bu farw Meirion James, 53 oed ac o Grymych, yn Ionawr 2015 ar ôl i swyddogion yr heddlu ddefnyddio cyffion, rhwystrau ar y coesau ac offer chwistrellu er mwyn ei atal yng ngorsaf heddlu Hwlffordd.
Mae'r llys wedi clywed ei fod wedi bod yn dioddef o iselder manig ers degawdau.
Ar ôl crynhoi'r dystiolaeth, dywedodd y crwner wrth y rheithgor na ddylai eu casgliadau roi bai ar neb, am nad oedd cwest yn achos llys.
Dywedodd bod angen iddynt ystyried y ffeithiau er mwyn penderfynu pwy oedd wedi marw, a sut, pryd a ble ddigwyddodd y farwolaeth honno.
Mae'r crwner hefyd wedi rhoi 11 cwestiwn i'r rheithgor eu hateb am ddigwyddiadau penodol cyn marwolaeth Mr James.
Os yw'r rheithgor yn penderfynu fod camgymeriad neu fwlch yn y wybodaeth, mae'r crwner wedi gofyn iddynt ystyried os oedd y camgymeriad neu'r bwlch hwnnw wedi cyfrannu at farwolaeth Mr James.
Bydd y rheithgor yn dychwelyd i'r llys fore Iau.