Machynlleth yn ymgynghori ar leihau allyriadau carbon

  • Cyhoeddwyd
Machynlleth
Disgrifiad o’r llun,

Machynlleth yw'r lle cyntaf yng Nghymru i ymuno yn yr ymgyrch

Bydd Machynlleth yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â mesurau i leihau allyriadau carbon yn yr ardal, wedi i'r dref ddatgan "argyfwng yn yr hinsawdd".

Mae'n rhan o symudiad byd eang, gyda thros 20 o drefi a dinasoedd wedi gwneud cyhoeddiadau tebyg.

Y dref farchnad ym Mhowys yw'r cyntaf yng Nghymru i ymuno yn yr ymgyrch, a bydd rhaid i gynghorwyr lleol ymateb drwy lunio cynllun o fewn chwe mis.

Mae gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau lleol a chreu clwb ceir trydan ymysg y syniadau sydd dan ystyriaeth.

Daeth cefnogaeth unfrydol i'r cynnig gan gyngor tref Machynlleth ar ôl derbyn deiseb oedd wedi'i harwyddo gan 500 o bobl leol.

'Gwell ansawdd aer'

Dywedodd y Cynghorydd Ann MacGarry, oedd wedi helpu cydlynu'r ddeiseb, bod "lot o ewyllys da i wneud i hyn weithio".

"Ry'n ni wedi derbyn bob math o awgrymiadau er mwyn sicrhau bod y dref yn ddi-garbon cyn gynted â phosib," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Cynghorydd Ann MacGarry helpu cydlynu'r ddeiseb sydd wedi arwain at y prosiect

Mae'r mudiadau lleol sydd wedi cytuno i gynorthwyo yn amrywio o sefydliad y merched i'r ganolfan iechyd.

Dywedodd Dr Julia Wallond, sy'n feddyg teulu ym Machynlleth, ei bod hi'n gobeithio y byddai'r broses o ddatgarboneiddio yn lleol yn arwain at fanteision iechyd - gan gynnwys "gwell ansawdd aer".

Yn y cyfamser, dadl y cigydd William Lloyd Williams yw y gallai'r cynllun annog pobl i gefnogi busnesau lleol yn hytrach na theithio am filltiroedd yn eu ceir.

Disgrifiad,

Cynllun yn 'hwb i fusnesau lleol'

Dyma mae Paul Allen, o'r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) ym Machynlleth, yn ei ddisgrifio fel "amlddatrys".

Fel cyfarwyddwr prosiect Prydain Ddi-Garbon, mae wedi cynghori llywodraethau Cymru a San Steffan ar fesurau i leihau allyriadau.

"Mae gwneud y peth cywir [ar gyfer newid hinsawdd] yn arwain at fuddion mewn meysydd eraill hefyd - arbedion ariannol, gwell iechyd, a chymuned sydd wedi'i hatgyfnerthu drwy'r broses o wneud rhywbeth y maen nhw'n credu ynddi," meddai.

"Dwi'n credu y gwelwn ni fwy a mwy o drefi fel Machynlleth yn gwneud datganiadau eleni, ac yn dechrau ar y gwaith o gyflwyno cynlluniau.

"Os fydd hynny'n digwydd yna fe fydd hi'n gwneud gwahaniaeth mawr iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Allen ei fod yn disgwyl gweld "mwy o drefi fel Machynlleth yn gwneud datganiadau eleni"

Bydd myfyrwyr sy'n astudio am gymwysterau ôl-radd yn CAT ynglŷn â phensaernïaeth gwyrdd a chynaliadwyedd yn cefnogi'r cyngor tref, gan droi Machynlleth yn "labordy byw ar gyfer meddwl arbrofol" yn ôl Mr Allen.

Un o'r blaenoriaethau cyntaf fydd canolbwyntio ar adeilad y cyngor tref ei hun - Y Plas - sy'n hwb i'r gymuned, gan gynnwys caffi ac oriel gelf.

Bydd gwella effeithlonrwydd ynni yr hen blasty Sioraidd yn ddibynnol ar dderbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

'Cynlluniau ymarferol'

Yn ôl Andy Rowland, rheolwr menter gymdeithasol EcoDyfi, mae'n gobeithio denu nawdd o'r loteri hefyd.

"Fe allwn ni ddechrau cynlluniau ymarferol sydd â'r potensial i alluogi pobl i wneud dewisiadau sy'n llai niweidiol i'r hinsawdd," meddai.

"A thrwy Gymru dwi'n credu y gallwn ni arwain y ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andy Rowland y gallai Machynlleth "arwain y ffordd" yng Nghymru

Mae Bryste, Llundain a Scarborough ymysg y trefi a'r dinasoedd yn Lloegr sydd wedi gwneud datganiadau o argyfwng yn yr hinsawdd - symudiad ddechreuodd ym Melbourne, Awstralia.

Ddydd Iau mae disgwyl i Gyngor Powys drafod cynnig sy'n "cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd", ar ôl cael eu hysbrydoli gan safiad Machynlleth.

Mae'n cynnwys uchelgais i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau'r cyngor, cefnogi datblygiadau ynni adnewyddadwy a sicrhau bod cronfa pensiwn yr awdurdod yn symud oddi wrth buddsoddi mewn tanwyddau ffosil.