Cyhoeddi enillydd gwobr gelfyddydol Artes Mundi
- Cyhoeddwyd
Yr artist Apichatpong Weerasethakul o Wlad Thai sydd wedi ennill gwobr Artes Mundi 8.
Daeth Mr Weerasethakul i'r brig o'r pum artist rhyngwladol gafodd eu henwebu ar gyfer y wobr £40,000 - y wobr ariannol fwyaf i'r celfyddydau yn y DU.
Y cerddor Gwenno Saunders gyflwynodd y wobr i Mr Weerasethakul mewn seremoni yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd nos Iau.
Dywedodd Karen Mackinnon, cyfarwyddwr Artes Mundi,: "Dewiswyd y gwaith oherwydd agwedd unigryw ei osod weithiau."
Daeth y rhestr fer o dros 900 o enwebiadau ac mae'r gweithiau yn cael eu harddangos yn yr amgueddfa ac yn Chapter tan 24 Chwefror.
Artes Mundi 8: Y Rhestr Fer yn llawn
Anna Boghiguian (Yr Aifft / Canada)
Bouchra Khalili (Ffrainc / Moroco)
Otobong Nkanga (Ffrainc / Nigeria)
Trevor Paglen (UDA)
Apichatpong Weerasethakul (Gwlad Thai) *enillydd
Yn ôl Mr Weerasethakul mae ennill y wobr yn mynd i'w "annog i i barhau i weithio ac i barhau i ofyn cwestiynau am ein byd ni."
"Mae'n ddiwrnod arbennig iawn. Roeddwn yn barod yn ddiolchgar iawn i fod ar y rhestr fer gyda chyn nifer o artistiaid ysbrydoledig eraill, ond mae ennill y wobr wir wedi fy synnu!
"Rwy'n gweithio mewn ffordd bersonol iawn a dwi'n ddiolchgar iawn, drwy Artes Mundi, bod modd i'r gwaith gyffwrdd ac ysbrydoli pobl ledled y byd.
"Mae ennill gwobr fel hyn yn fy annog i barhau i weithio ac i barhau i ofyn cwestiynau am ein byd ni.
"Mae Artes Mundi yn ein hatgoffa bod hi'n bwysig i ni fel artistiaid gael y rhyddid i fynd i'r afael â beth mae'n ei olygu i fyw yn y byd heddiw, o safbwynt cymdeithasol a gwleidyddol," meddai
Ffilmiau
Mae ei ffilmiau eisoes wedi ennill gwobrau mewn gwyliau ffilm, gan gynnwys y Palme d'Or yn Cannes a bydd ei ffilm 'Memoria' gyda'r actores Tilda Swinton yn cael ei rhyddhau yn ddiweddarach eleni.
Mae ei osodiad fideo buddugol, 'Invisibility', yn debyg i freuddwyd o ddwy ystafell, ochr yn ochr â'i gilydd.
Dywedodd un o feirniaid y gystadleuaeth: "Er, yn y gorllewin, fod Weerasethakul yn fwyaf adnabyddus fel cyfarwyddwr ffilmiau hir, dymunai'r rheithgor dalu gwrogaeth i'r ffordd egnïol y mae ei waith oriel yn gofyn cwestiynau taer o wneud ffilmiau, adrodd straeon a sefyllfa wleidyddol a chymdeithasol yr artist."
Ychwanegodd Karen Mackinnon, cyfarwyddwr Artes Mundi, fod "pob un o'r artistiaid ar y rhestr fer wedi cynhyrchu gwaith arbennig".
Anna Boghiguian oedd yn fuddugol yng Ngwobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams.
Bydd ei gwaith yn awr yn cael ei ychwanegu at gasgliad parhaol Amgueddfa Cymru.
Mae ei gwaith yn ymwneud â'r diwydiant dur, gan symud heibio i'r diwydiant byd-eang anhysbys ac i mewn i fywydau'r cymunedau sydd o'i gwmpas, gan gynnwys Port Talbot, Cymru, gerllaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2017