Mamau yn mynnu atebion am feddyginiaeth niweidiodd fabanod

Tomas Cozens a'i fam, Jo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomas Couzens - yma gyda'i fam, Jo - yn un o thua 20,000 o blant sydd ag anabledd oherwydd effeithiau Sodium Valproate

  • Cyhoeddwyd

Mae mamau a gymerodd math o feddyginiaeth epilepsi tra'n feichiog yn galw am atebion, wedi iddi ddod i'r amlwg bod cysylltiad rhwng hynny ac iechyd eu plant.

Mae Tomas Couzens, 25, yn un o oddeutu 20,000 o bobl sydd ag anabledd oherwydd sgil effeithiau Sodium Valproate.

Doedd neb wedi dweud wrth ei fam bod y feddyginiaeth - a oedd yn helpu i reoli atafaeliadau (seizures) - yn niweidiol i'w mab, er bod tystiolaeth yn dyddio nôl i'r 1970au yn awgrymu fel arall.

Cafodd y wybodaeth yna ei chadw rhag cleifion yn y DU, a daeth adroddiad a gyhoeddwyd yn 2020 i'r casgliad y dylai Llywodraeth y DU roi iawndal i'r rhai gafodd eu heffeithio.

Mae pum mlynedd wedi bod ers cyhoeddi Adroddiad Cumberlege, ac mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn dal i ystyried y canfyddiadau.

Ond mae'r dioddefwyr yn dal i aros am atebion.

Daeth hi'n amlwg i Jo, o Gaerffili, bod rhywbeth yn wahanol am Tomas pan ddechreuodd ddatblygu'n arafach na phlant eraill yr un oedran.

Yn ddiweddarach fe gafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn ogystal â nifer o anableddau corfforol a niwrolegol eraill.

Ond doedd Jo heb ystyried y cysylltiad rhwng ei meddyginiaeth ac anableddau ei mab tan i dad Tomas dynnu ei sylw at erthygl oedd yn sôn am blentyn arall gafodd ei effeithio gan Sodium Valproate.

Yn fuan ar ôl hynny, fe dderbyniodd Tomas ddiagnosis yn Awstralia o Effeithiau Datblygiadol Valproate.

"Doeddwn i ddim yn gwybod sut i deimlo," meddai Jo.

"Roedd yn neis i allu rhoi rhyw fath o label arno a chael rhywun yn cydnabod bod rhywbeth yn bod, ond roedd e hefyd yn gwylltio fi.

"O'n i eisiau rholio mewn i bêl a chrio."

'Wisiau sgrechian yn uchel'

Ychydig wedi hynny, dechreuodd Jo ddysgu am nifer o deuluoedd eraill a gafodd eu heffeithio gan Sodium Valproate, a dechreuodd ymgyrchu i gael Llywodraeth y DU i dderbyn cyfrifoldeb.

Dywedodd ei bod hi – ynghyd â miloedd o famau eraill – yn haeddu atebion fel y gallan nhw symud ymlaen gyda'u bywydau.

"Chi byth yn gallu maddau i'ch hun," meddai Jo, "achos mae'r feddyginiaeth dwi wedi cymryd wedi brifo babi fi."

"Un diwrnod, pan mae hyn drosodd, dwi eisiau sgrechian yn uchel a just crio, achos dwi'n meddwl ein bod ni gyd yn dal e mewn."

Tomas Couzens yn ifanc gyda'i fam, JoFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tomas ei fod am weld y llywodraeth yn addo na fydd hyn yn digwydd eto

Mae bywyd wedi bod yn anodd i Tomas ar adegau, gyda'i anableddau a nifer o lawdriniaethau yn achosi iddo ddioddef yn feddyliol ac yn gymdeithasol.

"Ni fydd unrhyw ymateb [gan y llywodraeth] yn ddigon i 'neud lan am y niwed mae wedi achosi," meddai.

"Dwi heb dderbyn unrhyw gymorth ariannol am y problemau dwi wedi cael wrth dyfu fyny - dim byd o gwbl.

"Dwi'n gorfod stryglo, dwi'n gorfod ceisio ennill arian, ceisio dysgu – er fy mod i rywfaint yn arafach, siŵr o fod lot yn arafach."

Becci Smart yn dal Zak pan oedd yn fabiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd Becci Smart wybod am beryglon Sodium Valproate pan roedd hi'n disgwyl ei mab, Zak

Mae Becci Smart o Ben-y-bont ar Ogwr yn fam arall na chafodd wybod am y peryglon o gymryd Sodium Valproate tra'n feichiog.

Collodd hi ddau blentyn tra'n cymryd y feddyginiaeth epilepsi Topiramite, a phan gafodd ei mab Zak ei eni, dwedodd y doctoriaid bod sepsis ganddo.

Ond daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod Zak yn dioddef o giliad Valproate ar ôl i'r cyffur basio drwy'r brych.

Mae Becci yn dal i deimlo fel bod doctoriaid yn anwybyddu anghenion ei mab.

"Dwi'n gallu mynd at y doctor gyda Zak ac yntau mewn poen ofnadwy – yn gorfforol, yn emosiynol ac yn feddyliol," meddai.

"Mae'r doctoriaid i gyd yn eistedd yno ac yn dweud 'wel nes di gymryd Sodium Valproate, beth wyt ti eisiau i ni wneud?'"

Mae gan Zak, 17, awtistiaeth ac mae'n dioddef o or-bryder, oedi mewn datblygiad a chyflwr cyfathrebu.

Mae'n gweld hi'n anodd yn yr ysgol ac weithiau yn cael meddyliau hunanladdol.

'Dim ni ddylai deimlo'n euog'

Mae Becci yn gofalu am Zak ar ei phen ei hun, ac mae'n dweud bod y sefyllfa wedi effeithio ar ei gwaith a'i gallu i gefnogi ei theulu yn ariannol.

Ond i Becci, mae gweld rhywun yn derbyn cyfrifoldeb am yr hyn sydd wedi digwydd i Zak yn bwysicach nac unrhyw iawndal.

"Mae'n rhaid i rywun dderbyn cyfrifoldeb am hyn," meddai.

"Tan fod rhywun yn gwneud hynny, 'da ni fel rhieni yn byw gyda'r euogrwydd – a dim ni ddylai deimlo'n euog."

Becci Smart a ZakFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becci yn dweud bod gweld rhywun yn derbyn cyfrifoldeb am y sefyllfa yn bwysicach nac iawndal

Er y problemau sydd wedi codi, mae Sodium Valproate yn dal i gael ei ystyried yn ddull effeithiol o atal atafaeliadau i nifer o bobl sy'n dioddef o epilepsi.

Mae'r niwrolegydd ymgynghorol Owen Pickrell yn dweud bod y cyffur eisoes yn cael ei ddefnyddio fel opsiwn olaf, ond i griw bach o gleifion, dyma'r opsiwn gorau.

"I rai mathau o epilepsi, dyw meddyginiaethau arall ddim yn gweithio," meddai, "ac mae'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran ansawdd bywyd."

Ond fe rybuddiodd i bobl beidio â stopio cymryd unrhyw fath o feddyginiaeth heb drafod hynny gyda doctor yn gyntaf oherwydd y risg o atafaeliadau.

Dywedodd Adran Iechyd Llywodraeth y DU: "Mae'r niwed mae Sodium Valproate wedi ei achosi dal yn cael ei deimlo heddiw.

"Rydyn ni'n cydymdeimlo gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio ac rydyn ni'n canolbwyntio ar y ffyrdd gorau i gefnogi cleifion ac atal hyn rhag digwydd eto.

"Mae'n fater cymhleth ac mae'r llywodraeth yn ystyried argymhellion adroddiad y Comisiynydd Diogelwch Cleifion yn ofalus ac yn benderfynol o roi diweddariad."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.