Ymweld â Chaergybi i ganfod effaith Brexit ar fasnach

  • Cyhoeddwyd
Porthladd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Porthladd Caergybi yn un o'r prysuraf yn y DU

Mae aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn ymweld â phorthladd Caergybi ddydd Llun er mwyn archwilio effaith Brexit ar fasnach yn y dyfodol.

Porthladd Caergybi yw un o'r porthladdoedd mwyaf ym Mhrydain sy'n ymdrin â theithwyr a chargo.

Ar gyfer ei ymchwiliad i fasnach a thollau, mae'r Pwyllgor Materion Cymreig eisoes wedi derbyn tystiolaeth gan arbenigwyr ar bolisi masnach a chynrychiolwyr o'r diwydiannau cludo nwyddau.

Mae'r Pwyllgor wedi clywed pryderon y gallai cadwyni cyflenwi 'rholio-ymlaen rholio-i-ffwrdd', sy'n hwyluso symud nwyddau o un ochr i Fôr Iwerddon i'r llall, wynebu anawsterau wedi i Brydain adael yr UE.

'Dim cytundeb?'

Ddydd Llun bydd aelodau'r pwyllgor yn cwrdd â staff y porthladd er mwyn trafod effaith bosib Brexit ar wasanaethau masnachol a gwasanaethau ar gyfer teithwyr sy'n weithredol o Gaergybi.

Mae disgwyl i'r aelodau hefyd ofyn beth yw paratoadau awdurdod y porthladd ar gyfer Brexit gan gynnwys cynlluniau wrth gefn ar gyfer 'dim cytundeb', a sut y gallai Brexit effeithio ar gyfraniad Caergybi i'r economi leol.

Ddechrau'r flwyddyn dangosodd ymchwil gan y BBC bod dau ddarn o dir ar Ynys Môn wedi eu clustnodi fel lleoliadau posib i barcio lorïau rhag ofn na fydd porthladd Caergybi yn gallu ymdopi gyda thraffig yn sgil Brexit heb gytundeb.

Mae 'na bryder y gallai mwy o archwiliadau ar ffiniau yn sgil Brexit heb gytundeb arwain at broblemau traffig mewn porthladdoedd.

Fis Tachwedd y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones, nad oedd porthladdoedd Cymru yn barod i ddelio ag effaith posib Brexit heb gytundeb.