Fferyllwyr y gogledd a Chwm Taf i gynnig prawf dolur gwddf
- Cyhoeddwyd
Mae tua fferyllfeydd yng ngogledd Cymru ac yn yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn cynnig prawf dolur gwddf i gleifion er mwyn eu galluogi i gael triniaeth a chyngor arbenigol yn gyflym heb orfod mynd at eu meddyg teulu.
Ar hyn o bryd treialu'r cynllun fydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru (GIG) ac os bydd yn llwyddiannus bydd yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru.
Gall cleifion sy'n ymweld â fferyllfa sy'n rhan o'r peilot ddisgwyl cael cwestiynau penodol gan y fferyllydd ac o bosib prawf swab er mwyn penderfynu os oes ganddynt ddolur gwddf feirol neu facteriol.
Os bydd y prawf yn penderfynu bod gan y claf haint feirol na ellir ei drin gyda gwrthfiotigau, gall y fferyllydd roi cyngor ar y camau i'w cymryd er mwyn gwella.
Gall y fferyllydd hefyd roi gwrthfiotigau os bydd y prawf yn dweud bod ganddynt haint bacteriol y gellir ei wella gyda gwrthfiotigau.
Mae'r gwasanaeth yn rhan o Gynllun Anhwylderau Cyffredin - cynllun sy'n annog cleifion i ymweld â'u fferyllydd cymuned yn lle eu meddyg teulu os ydynt yn teimlo bod angen cyngor GIG arnynt i reoli salwch cyffredin fel dolur gwddf, dŵr poeth a llid yr amrannau.
'Gallu cael ei drin gartref'
Dywedodd Adam Mackridge, Dirprwy Bennaeth Fferyllfa ar gyfer Gofal Cychwynnol a Chymuned: "Mae dolur gwddf yn gyffredin iawn adeg yma o'r flwyddyn ac yn cael ei achosi fel arfer gan salwch fel annwyd a'r ffliw.
"Fel arfer bydd yn gwella o fewn 7 i 10 diwrnod. Gall y rhan fwyaf o achosion o ddolur gwddf gael eu trin gartref gan feddyginiaethau sydd gennych yn eich cwpwrdd ac ni fydd angen cymorth arnoch gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd.
"Fodd bynnag, mae'n syniad da i fynd at eich fferyllydd am gyngor os yw eich symptomau yn ddifrifol, os nad yw eich symptomau wedi dechrau gwella ar ôl wythnos neu os nad ydych yn siŵr o'ch symptomau a sut i'w trin orau."
'Ewch i'r fferyllfa yn gyntaf'
Dywedodd y fferyllydd lleol, Gerald Thomas, sy'n Rheolwr Ardal Fferyllfeydd Knights yn Wrecsam a Sir y Fflint: "Mae hwn yn wasanaeth newydd gwych a fydd yn gwasanaethu'r cleifion hynny sy'n poeni am ddolur gwddf parhaus neu ddifrifol.
"Os ydych yn teimlo bod eich dolur gwddf yn ddifrifol neu os nad yw'n gwella, ewch at eich fferyllfa leol yn gyntaf.
"Byddwch yn cael eich gweld y diwrnod hwnnw, gan aelod cymwysedig o'r tîm gofal iechyd, a fydd yn gallu rhoi cyngor ac os bo'n briodol, triniaeth.
"Os bydd hyn yn gofyn am archwiliadau pellach, gall y fferyllydd eich cyfeirio at y lle cywir i gael eich gweld.
"Byddwn yn annog yn gryf i gleifion 6 oed a throsodd sydd â dolur gwddf ac sydd angen cyngor gan weithiwr gofal iechyd i ddefnyddio'r gwasanaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013