Galw am well cydweithio er mwyn datblygu fferyllfeydd cymunedol

  • Cyhoeddwyd
Fferyllfa
Disgrifiad o’r llun,

Pa fath o berthynas sy'n bodoli rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu?

Mae angen gwell cydweithio i ddatblygu fferyllfeydd cymunedol yn llawn a'u defnyddio'n well, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol yn beirniadu cyfraniad y fferyllfeydd i wasanaethau iechyd.

Er bod y pwyllgor yn croesawu "ymdrechion cydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu"dywedodd fod y datblygiadau yma yn "araf symud ymlaen".

Dywedodd David Rees AC, cadeirydd y pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Er bod y pwyllgor yn croesawu'r camau a gymerwyd eisoes i wella cydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu, rydym yn siomedig ynghylch arafwch y cynnydd.

Cyflymu'r broses

"Rydym yn galw ar y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford i ystyried creu gweithgor sy'n cynnwys meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol er mwyn cyflymu'r broses o sicrhau consensws rhwng y ddau broffesiwn.

Mae'r pwyllgor yn galw am

  • wella dulliau cyfathrebu ymhellach i roi gwybod i'r cyhoedd ynghylch gwasanaethau fferyllfeydd cymunedol;

  • ddarparu arweiniad cenedlaethol cliriach ar gyfer datblygu gwasanaethau fferyllfeydd cymunedol;

  • ddod i gytundeb rhwng gweithwyr proffesiynol a chleifion ynghylch y graddau y dylai fferyllfeydd cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd allu cael mynediad at wybodaeth am gleifion;

  • ystyried newid y ffordd y mae fferyllfeydd cymunedol yn cael eu cyllido er mwyn sicrhau system sy'n seiliedig ar safon y canlyniadau yn hytrach na nifer y meddyginiaethau a ddosberthir.