Apêl wedi digwyddiad rhwng cefnogwyr Bangor a Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i ddigwyddiad ym Mangor Uchaf a arweiniodd at heddwas yn cael ei gludo i'r ysbyty.
Cafodd yr heddwas ei anafu tra'n delio gyda chefnogwyr cyn y gêm bêl-droed rhwng Bangor a Chaernarfon ychydig cyn 19:00 nos Sadwrn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson fod yr heddwas bellach wedi ei ryddhau o'r ysbyty.
Ychwanegodd: "Rydym yn awyddus i gael unrhyw luniau o ffonau symudol neu gamerau dashcam allai fod wedi dal y digwyddiad."
Yn dilyn ymateb negyddol gan rai ar wefannau cymdeithasol, mae S4C wedi amddiffyn y penderfyniad i gynnal y gêm fin nos, gan nodi fod yr awdurdodau perthnasol i gyd yn gytûn.
Roedd dros 2,000 o gefnogwyr yn bresennol i wylio Caernarfon yn trechu Bangor nos Sadwrn, ac yn ôl yr Arolygydd Richie Green "nifer fechan" oedd yn gyfrifol am achosi'r problemau.
"Tra roedd y ddau set o gefnogwyr yn cael eu gwahanu gan yr heddlu, fe wnaeth nifer fechan dorri trwy'r gadwyn o heddweision ac fe wnaeth hyn achosi stŵr," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'n siom bod nifer fechan yn benderfynol o achosi problemau, er gwaethaf presenoldeb yr heddlu."
'Trefniadau digonol'
Roedd yr heddlu wedi dweud eisoes y byddai "plismyn ychwanegol ar ddyletswydd" ar gyfer y gêm, i fynd i'r afael ag unrhyw drafferthion rhwng cefnogwyr.
Ond mae'r penderfyniad i gynnal y gêm yn hwyr ar nos Sadwrn er mwyn ei darlledu'n fyw ar y teledu wedi ei feirniadu gan rai ar wefannau cymdeithasol oedd am weld y gêm yn cael ei chwarae'n gynt yn y dydd.
Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Roedd cyfarfod rhwng yr holl bartïon wedi ei gynnal wrth drafod y darllediad.
"Roedd y ddau glwb, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r heddlu yn gytûn fod trefniadau digonol mewn lle er mwyn cynnal y gêm gyda'r nos.
"Roedd dros 2,000 o bobl yn Nantporth yn gwylio'r gêm. Lleiafrif bach iawn oedd yn creu trafferth ym Mangor Uchaf.
"Rydym yn diolch i'r heddlu am eu gwaith ac yn dymuno gwellhad buan i'r swyddog sydd wedi anafu."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â deunydd fideo neu wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019