'Ysgolion ddim yn rhoi sylw digonol i hawliau plant'

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr yn trafod eu hawliau mewn gwasanaethau a thrwy weithgareddau

Dydy rhai ysgolion ddim yn rhoi digon o sylw i hawliau disgyblion, yn ôl y Comisiynydd Plant.

Mae hyn, meddai Sally Holland, yn peryglu gallu plant i adnabod pan nad ydyn nhw'n cael eu trin yn iawn.

Mae'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud hi'n ofynnol ar ysgolion i ddarparu addysg ar hawliau fel rhan o gyfraith y cwricwlwm newydd.

Dywedodd hefyd nad oedd rhai ysgolion yn parchu hawliau plant ar bob adeg trwy beidio rhoi cyfle iddyn nhw ddweud eu dweud yn yr ysgol, er enghraifft.

Fe fydd yna gyfleoedd i ddisgyblion ddeall a gweithredu eu hawliau ar draws y cwricwlwm newydd, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae 42 o hawliau wedi eu nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, er enghraifft yr hawl i fod yn ddiogel, yr hawl i addysg a'r hawl i fwyd a dŵr da.

Yn ôl y Comisiynydd Plant mae rhai plant yn dysgu llawer mwy am eu hawliau nac eraill.

Dywedodd mai'r unig ffordd i sicrhau bod yr addysg yn gyson yw ei gynnwys fel rhan o'r gyfraith ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd o 2022.

"Dwi isie i blant ddysgu am eu hawliau fel eu bod yn gallu defnyddio'r hawliau plant a'u bod nhw'n gallu adnabod pan dydyn nhw ddim yn derbyn nhw," meddai.

"Er enghraifft, os dy'n nhw ddim yn teimlo'n saff neu dy'n nhw ddim wedi cael cyfle i ddweud eu dweud am rywbeth sy'n bwysig iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sally Holland yn credu y dylai plant gael y cyfle i "ddweud eu dweud"

Yn ogystal â pheidio dysgu'r plant am hawliau, mae 'na enghreifftiau hefyd o ysgolion "ddim yn parchu hawliau plant" yn ôl Ms Holland.

"Dydy rhai o'r plant ddim yn cael y cyfle i ddweud eu dweud yn yr ysgol neu maen nhw wedi dechrau polisi newydd sy'n 'super-strict' gyda gwisg ysgol efallai a dydyn nhw ddim yn meddwl am eu bywyd teulu sy'n meddwl bod hi'n anodd iddyn nhw ddod i'r ysgol bob diwrnod mewn gwisg ysgol smart.

"Neu efallai dy' nhw ddim yn rhoi'r un cyfle i blant gydag anghenion ychwanegol i gyflawni eu potensial."

'Gwrando ar y disgyblion'

Yn Ysgol Gyfun Gŵyr ger Abertawe mae hawliau'n cael eu trafod mewn gwasanaethau a thrwy weithgareddau.

"Mae'r disgyblion yn lico gwybod bo' nhw'n gallu troi at yr athrawon, yn gallu dweud eu barn nhw wrth athrawon a bod ni wedyn yn gwrando ar eu llais nhw, yn gwrando ar yr hyn sydd gyda nhw i ddweud," meddai Rhodri Evans, sy'n uwch-athro yn yr ysgol.

Mae'n gwadu bod dysgu hawliau plant yn faich gwaith ychwanegol ar ysgolion.

"Unwaith chi'n dechrau ystyried beth yw'r hawliau chi'n sylweddoli mae'r rhain yn bethau ni'n gwneud o ddydd i ddydd ta beth."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Comisiynydd Plant wrth ddatblygu'r cwricwlwm a bod croeso iddi ddatgan ei barn fel rhan o'r ymgynghoriad ar bapur gwyn y llywodraeth.

Yn ôl llefarydd bydd y cwricwlwm yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'n "ddinasyddion deallus a moesegol".

"Mae hynny'n golygu bydd modd ystyried hawliau plant ar draws y cwricwlwm," meddai.