Aildderbyn cynghorydd ffrae pebyll i'r grŵp Ceidwadol

  • Cyhoeddwyd
Neges Twitter Kathryn KellowayFfynhonnell y llun, Twitter/Kathryn Kelloway
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kathryn Kelloway ei gwahardd wedi iddi recordio sylwadau dadleuol o flaen nifer o bebyll ar Stryd y Frenhines

Mae'r cynghorydd sir a alwodd am rwygo pebyll pobl ddigartref yng Nghaerdydd i lawr wedi cael ei derbyn yn ôl i'r grŵp Ceidwadol o fewn y cyngor.

Cafodd y Cynghorydd Kathryn Kelloway ei hatal o'r grŵp ddydd Gwener diwethaf ar ôl cyhoeddi fideo ar Twitter yn galw ar Gyngor Caerdydd i weithredu am fod y pebyll yn amharu ar ddelwedd canol y ddinas.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bryd hynny nad oedd ei sylwadau - a gafodd eu disgrifio'n "annynol" a "ffiaidd" gan rai o'r bobl wnaeth ymateb ar Twitter - yn adlewyrchu safbwyntiau'r blaid.

Cafodd ei haildderbyn i'r grŵp wedi cyfarfod o'r aelodau ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan bod angen i'r pebyll "gael eu tynnu oddi yno, am eu bod yn atal pobl sy'n cysgu ar y strydoedd rhag chwilio am lety diogel ac yn effeithio ar enw da canol y ddinas."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Lynda Thorne wedi dweud bod y pebyll yn rhoi pobl ddigartref "mewn perygl"

Mae'r aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am faterion tai, y cynghorydd Llafur Lynda Thorne, hefyd wedi awgrymu nad yw'r pebyll yn effeithiol.

Ysgrifennodd ar Twitter ddydd Gwener: "Mae'r elusennau sy'n rhoi pebyll i bobl yn rhoi pobl sy'n cysgu ar y strydoedd mewn perygl. Maen nhw'n gadael gwasanaethau a cholli apwyntiadau iechyd pwysig.

"Cyn mis Rhagfyr, roeddem yn helpu, ar gyfartaledd, 10 person digartref y mis, ond ym mis Rhagfyr, cwympodd y rhif i 4."

Ond mae'r Cynghorydd Thorne hefyd yn dweud bod sylwadau'r Cynghorydd Kelloway yn "ymfflamychol" ac yn "gamsyniol", a bod "angen bod yn fwy pwyllog er mwyn cyrraedd datrysiad" i'r broblem.

"Ni ddylai hyn fod am feio pobl sy'n dioddef," meddai. "Mae angen i ni eu helpu."

"Mae pob dim yn dangos bod pethau'n waeth i bobl ddigartref sy'n parhau i gysgu ar y strydoedd, nag yw hi i bobl sy'n dod i mewn a chael cymorth gan wasanaethau cefnogol."

"Mae'n glir fod gan y cyngor dyletswydd i ofalu - i ddod o hyd i ffordd o gyfathrebu gyda'r unigolion yma i'w symud o'r strydoedd ac yn ôl ar eu traed. I wneud hynny, mae angen iddyn nhw fanteisio ar ein gwasanaethau."

'Di-droi'n ôl'

Dywedodd Ms Kelloway ei bod "yn ddi-droi'n ôl" mewn cysylltiad â'r mater.

"Mae'r pebyll yn rhoi pobl ddigartref mewn peryg yn ogystal â niweidio enw da Caerdydd," meddai. "Mae yna fwy na digon o lefydd mewn hostelau ar gael yng Nghaerdydd.

"Mae'r cyngor wedi cydnabod nad oes yna reswm i unrhyw un gysgu ar y strydoedd. Mae'r ddarpariaeth i bobl ddigartref yma ymhlith y gorau yn y DU, ac mae'r cyngor yn haeddu clod am hynny.

"Cyfaddefodd y cyngor eu hunain bod y pebyll yn arwain at lai o bobl ddigartref yn mynd i hostelau ac i dderbyn y gefnogaeth orau ar eu cyfer a chymorth meddygol.

"Mae'r pebyll yn niweidio'r digartref a'r ddinas. Mae angen iddynt gael eu tynnu lawr cyn gynted ag sy'n bosib."

Dywed llefarydd ar ran canolfan Huggard, sy'n rhoi cymorth i bobl ddigartref, bod hi'n "ofnadwy" i awgrymu mai rhwygo'r pebyll i lawr yw'r ateb i'r broblem.

Mae llefarydd tai Democratiaid Rhyddfrydol Caerdydd, y Cynghorydd Joe Carter wedi beirniadu'r grŵp Ceidwadol am gefnogi sylwadau "ymfflamychol".

"Rydym wedi ein synnu gan y brys mawr wrth ei chroesawu'n ôl i'r grŵp," meddai. "Mae'r Ceidwadwyr wedi cefnogi ei galwadau i dynnu'r pebyll i lawr - rhywbeth sy'n anystyriol ac yn ddideimlad."