Rhoi pebyll i'r digartref yn sefyllfa 'beryglus'

  • Cyhoeddwyd
Tents on a Cardiff street
Disgrifiad o’r llun,

Nifer fach o'r pebyll sydd wedi ymddangos yng nghanol Caerdydd

Gallai pobl sy'n rhoi pebyll i'r digartref eu rhoi mewn sefyllfa beryglus, yn ôl prif weithredwr lloches yng Nghaerdydd.

Daw'r rhybudd gan Richard Edwards, prif weithredwr canolfan Huggard yn Nhre-biwt, wrth i ragor o bebyll gael eu lleoli ar rai o strydoedd siopa prysuraf y ddinas.

Dywedodd fod y rhai sydd â phebyll yn llai tebygol o dderbyn cymorth ac yn fwy tebygol o gael eu hecsploetio.

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn ymwybodol fod y nifer o bebyll ar y strydoedd yn cynyddu a'u bod yn cwrdd ag asiantaethau eraill er mwyn "canfod y ffordd ymlaen".

Disgrifiodd un dyn oedd ar ei ffordd i'r gwaith yr olygfa yng Nghaerdydd fel un "afiach".

Dywedodd: "Dwi'n dod o Affrica. Dydych chi ddim yn gweld hyn yno.

"Dylai o ddim bod yn digwydd yma. Mae'n afiach."

Disgrifiad o’r llun,

Richard Edwards yw prif weithredwr canofan Huggard yng Nghaerdydd

Dywedodd Richard Edwards fod y cynnydd mewn pebyll yn un o'r agweddau fwyaf pryderus am dwf digartrefedd yng Nghaerdydd.

"Rydym yn deall eisiau'r cyhoedd i helpu pobl ddigartref ond wrth roi pabell iddyn nhw, mae'n peryglu eu hiechyd a'u lles emosiynol.

"Tra dydyn ni ddim yn cytuno gyda phebyll yn cael eu symud yn orfodol, rydym yn gofyn i'r cyhoedd feddwl yn ofalus am yr hyn maen nhw'n gwneud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ross fod y ganolfan "rhy beryglus" i aros yn

Dywedodd dau berson digartref eu bod nhw'n dewis byw mewn pebyll yn hytrach na llochesi fel Huggard.

Mae Ross, sydd ag anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD), wedi bod yn byw rhwng llochesi i'r digartref ac mewn pebyll ar y stryd, a dywedodd fod canolfan lloches Huggard llawn cyffuriau a lladron.

"Mae yna bobl yno sydd yn cymryd y cyffur spice ac maen nhw'n wael eu hysbryd.

"Mi wnes i syrthio i gysgu a deffro gyda dyn yn sefyll uwch fy mhen gyda fy waled yn ei law. Mae'n rhy beryglus yno."

Dywedodd hefyd fod pobl yn lleoli eu pebyll gyda'i gilydd er mwyn diogelu eu hunain.

'Does dim gobaith'

Dywedodd Richard ei fod yn ddigartref ar ôl iddo adael y fyddin ac ar ôl i'w berthynas chwalu.

"Mae'n eithriadol o ddigalon - ti'n deffro, does gen ti ddim byd. Ti allan yn y glaw a'r oerfel a ti'n rhoi'r gorau iddi.

"Ti'm yn gwybod beth i wneud. Does dim gobaith."

Yn ôl Mr Edwards mae gan lloches Huggard bolisi cadarn yn erbyn cyffuriau, ac mae cefnogaeth ar gael i rheini sydd yn gaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu yn poeni fod y cynnydd yn nifer y pebyll yn cael effaith ar y nifer sy'n ddigartref sy'n penderfynu peidio derbyn cefnogaeth."