Sefydlu gŵyl i gofio brwydr Twm Sbaen yn erbyn ffasgiaeth

  • Cyhoeddwyd
Tom Jones neu Twm SbaenFfynhonnell y llun, Llun teulu / poster Gŵyl Twm Sbaen
Disgrifiad o’r llun,

Tom Jones neu Twm Sbaen (canol) yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen

Bydd gŵyl i gofio Cymro a gafodd ei garcharu a'i ddedfrydu i farwolaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, yn cael ei chynnal yn Wrecsam ym mis Ebrill.

Roedd Tom Jones - glõwr o Rosllanerchrugog - yn un o'r nifer o Gymry a ymunodd â'r Frigâd Ryngwladol i ymladd yn y rhyfel ar ochr y gweriniaethwyr yn erbyn ffasgwyr y Cadfridog Francisco Franco.

Teithiodd i Sbaen yn 1937 ar ôl dweud wrth ei deulu ei fod yn mynd i Fae Colwyn am y penwythnos.

Bydd Gŵyl Twm Sbaen yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 6 Ebrill - union 80 mlynedd wedi diwedd y rhyfel.

Dedfrydu i farwolaeth

Yn dilyn un o frwydrau olaf y rhyfel, cafodd ei deulu lythyr yn dweud ei fod wedi marw.

Mewn gwirionedd, roedd wedi cael ei ddal a'i garcharu gan y ffasgwyr, ac fe dreuliodd ddwy flynedd yn y carchar.

Cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth, ond yn 1940 fe dalodd llywodraeth Prydain swm sylweddol i'w ryddhau.

Dychwelodd i'r Rhos, lle cafodd y llysenw Twm Sbaen oherwydd ei anturiaethau. Bu'n gweithio fel trefnydd undeb llafur, ac roedd yn un o sylfaenwyr Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC) yn 1972.

Bydd yr ŵyl yn dechrau gyda gorymdaith o ganol y dref, ac mae'n cynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth, ffilmiau, sgyrsiau a thrafodaethau.

Dywedodd Keith Davies, ar ran y trefnwyr: "Hon yw'n ffordd ni o gofio cyfraniad Cymru'n gyffredinol a Twm Sbaen yn benodol, i'r frwydr yn erbyn ffasgaeth, ac i'n hatgoffa ni i gyd o'r brwydrau tebyg sy'n parhau hyd heddiw.

"Rydym yn falch iawn fod ei deulu yn cefnogi'r digwyddiad ynghyd ag undebau llafur ac ymgyrchwyr lleol.

"Mae 'na gefnogaeth eang i'r digwyddiad ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu coffáu bywyd yr arwr lleol yma."

Ymunodd 174 o Gymry â'r Frigâd Ryngwladol ond y ffasgwyr, gyda chefnogaeth y Natsïaid, enillodd y rhyfel, a bu Franco mewn grym fel unben y wlad o 1939 tan ei farwolaeth yn 1975.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol