Disgyblion Ynys Môn yn mynd adref o'r ysgol yn 'llwglyd'

  • Cyhoeddwyd
Cinio Ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae derbyn maint pryd bwyd fel hyn yn arferol yn Ysgol Uwchradd Bodedern yn ôl y rhiant

Mae rhieni disgyblion mewn ysgol ar Ynys Môn yn pryderu bod addysg eu plant yn cael ei effeithio gan nad ydyn nhw'n cael eu bwydo'n ddigonol yn yr ysgol a'u bod yn dychwelyd adref yn "llwglyd".

Dywedodd un rhiant, sy'n dymuno aros yn ddienw, wrth Cymru Fyw ei bod wedi "dychryn" pan wnaeth ei phlentyn 16 oed, sy'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern ddangos llun o'i chinio ysgol iddi.

Yn ôl y rhiant, mae'r ffaith fod y plant yn llwglyd yn yr ysgol yn amharu arnyn nhw yn yr ystafell ddosbarth, gan nad ydyn nhw'n gallu canolbwyntio.

Mae Cyngor Ynys Môn wedi ymateb drwy ddweud eu bod "mewn trafodaethau gyda'u darparwyr, Caterlink", ac mae Pennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern wedi cael cais am ymateb.

'Syth i'r cwpwrdd bwyd'

Ychwanegodd y rhiant: "Dwi wedi sylwi ers talwm fod y plant yn dod adref o'r ysgol ac yn mynd yn syth i'r cwpwrdd bwyd i nôl rhywbeth i fwyta am eu bod yn llwglyd.

"Pan dwi'n gofyn iddyn nhw pam, maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n cael eu bwydo'n iawn yn yr ysgol, a bod maint y pryd yn fach iawn.

"Ar ôl i mi weld y llun roeddwn wedi dychryn ac fe wnes i ffonio'r ysgol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y pryd bwyd ei weini yn Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn

Ychwanegodd ei bod wedi siarad gydag aelod o staff yng nghegin Ysgol Uwchradd Bodedern a dywedon nhw eu bod dan orchmynion gan y cwmni Caterlink i roi dim mwy na saith talp tatws (wedges) i bob person.

Cwmni Caterlink, sydd wedi'u lleoli yn sir Berkshire, sy'n gyfrifol am ddarparu bwydydd i ysgolion ar Ynys Môn ers Medi 2013.

Yn ôl eu gwefan, dim ond i ysgolion ar Ynys Môn maen nhw'n darparu bwydydd yng Nghymru.

Fe wnaeth y rhiant anfon e-bost at Reolwr Gweithredoedd Caterlink, Dawn Williams yn nodi ei phryderon.

'Plât llawn'

Mewn e-bost yn ôl at y rhiant, mae Dawn Williams yn dweud y byddai'n "ymchwilio i'r mater ar frys".

Mae cinio ysgol yn costio £2.50 a dyw hynny ddim yn cynnwys diod yn ôl y rhiant.

"Dwi ddim yn gweld bai ar yr ysgol, yn enwedig os yw'r cwmni yn rhoi gorchmynion ar y staff coginio i beidio rhoi mwy na'r disgwyl," meddai.

"Sut mae modd i fy mhlentyn ganolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth os ydyn nhw'n llwglyd? Mae hi'n sefyllfa drist bod hyn yn digwydd.

"Dwi wedi siarad efo sawl rhiant arall sy'n dweud bod eu plant nhw hefyd yn cyrraedd adref o'r ysgol yn llwglyd, mae rhaid i bethau newid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryd bwyd yn costio £2.50 heb gynnwys diod

Dywedodd rhiant arall wrth Cymru Fyw fod ei merch sydd ym mlwyddyn wyth, Ysgol Uwchradd Bodedern yn cwyno'n ddyddiol ei bod hi eisiau bwyd, hyd yn oed ar ôl bwyta cinio yn yr ysgol.

"Mae fy merch yn dod adref a dydy hi methu aros tan amser te i fwyta. Mae hi wastad yn dweud eu bod nhw'n gwylio faint o fwyd maen nhw'n ei roi i bob disgybl.

"Mae £2.50 y dydd yn ddrud iawn i feddwl faint o fwyd mae'r plant yn ei gael am hynny," meddai.

'Cydymffurfio â chanllawiau'

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Caterlink, Nigel Fuller: "Mae Caterlink yn annog deiet cytbwys a chynigion iachus.

"Rydym yn cynnig plât llawn i bob disgybl, sy'n cynnwys cig neu opsiwn llysieuol, tatws neu reis, llysiau, salad, bara'r dydd ac opsiwn o bwdin.

"Mae ein prydau yn cydymffurfio gyda chanllawiau Llywodraeth Cymru ar fwyta'n iach ac maen nhw'n cael eu harolygu gan Gyngor Ynys Môn.

"Rydym yn croesawu adborth ac rydym yn addasu bwydlenni er mwyn sicrhau amrywiaeth tymhorol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn: "Rydym mewn trafodaethau gyda'r darparwyr, Caterlink ynglŷn â'r camau nesaf yn dilyn y wybodaeth a dderbyniwyd."

Mae Cymru Fyw wedi gwneud cais am ymateb gan Bennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern.