Gwrthdrawiad Ynysforgan: Teyrnged gan deulu dyn fu farw

  • Cyhoeddwyd
Y gwasanaethau brys yn ymateb wedi'r gwrthdrawiad nos Sul 27 Ionawr
Disgrifiad o’r llun,

Y gwasanaethau brys yn ymateb wedi'r gwrthdrawiad nos Sul

Mae teulu dyn lleol a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Abertawe nos Sul wedi talu teyrnged iddo.

Roedd Antony David Lewis o ardal Portmead yn 54 oed ac yn dad i dri o blant.

Roedd ei gar Mercedes mewn gwrthdrawiad ar ffordd ymadael y draffordd ger cyffordd 45, Ynysforgan tua 19:05 a bu farw yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu De Cymru'n apelio am wybodaeth neu luniau dash cam o'r digwyddiad gan unrhyw un sydd heb gysylltu â nhw hyd yn hyn.

Dywedodd teulu Mr Lewis bod y farwolaeth wedi "gadael bwlch enfawr yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi" a'i fod "wastad yn gwneud i ni chwerthin".

"Roedd gan Antony nifer fawr o ffrindiau ym Mhort Talbot a Threforys a fydd i gyd yn cael eu llorio o'i golli'n ddirybudd.

"Roedd yn driw i'w deulu a'i ffrindiau, fe fyddai'n sgwrsio gydag unrhyw un, ac yn dangos parch a charedigrwydd i bawb oedd yn ei nabod.

Ychwanegodd datganiad y teulu y byddai cydweithwyr Mr Lewis - oedd yn gweithio fel weldiwr i gwmni Pipework Mechanics yn Y Pîl ym Mhen-y-bont ar Ogwr - "yn ei golli'n ofnadwy".