Rhybudd oren am hyd at 10cm o eira i rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
llanuwchllyn

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi gosod rhybudd oren am eira i dde ddwyrain Cymru, gyda rhagolygon y gall hyd at 10cm o eira ddisgyn ar dir uchel.

Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 14:00 a 21:00 ddydd Iau.

Mae'r tywydd garw yn parhau i effeithio rhannau o'r wlad, gyda rhai ysgolion yn Sir Benfro yn penderfynu cau yn gynnar.

Yn Eryri, mae wardeiniaid y Parc Cenedlaethol wedi rhybuddio'r cyhoedd i gadw'n glir o'r mynyddoedd oherwydd amodau "hynod beryglus".

Mae nifer o ysgolion eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw ar agor i blant ddydd Gwener.

-9.3C dros nos

Mae disgwyl rhwng 3-5cm o eira mewn tair awr yn y de-ddwyrain ddydd Iau, gyda rhai ardaloedd uwch yn gweld hyd at 10cm.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod oedi ar wasanaethau tren yn debygol, a perygl i rai ardaloedd gwledig golli cyflenwadau trydan.

Dyma un o nifer o rybuddion tywydd yr wythnos hon, gyda'r tywydd garw yn effeithio rhannau helaeth o'r wlad.

Mae rhybudd melyn eisoes mewn grym i'r de a'r canolbarth, gyda rhew ac eira yn debygol o effeithio ardaloedd o 13:00 dydd Iau, 31 Ionawr nes 13:00 dydd Gwener, 1 Chwefror.

Daw'r rhybudd wedi noson oeraf y flwyddyn, gyda'r tymheredd mor isel â -9.3C ym Mhont Senni, Powys.

Ffynhonnell y llun, @WPL_Official
Disgrifiad o’r llun,

Mae gêm nos Iau rhwng Y Bala a'r Seintiau Newydd wedi ei gohirio oherwydd eira

Mae nifer o ysgolion yng Nghaerdydd, dolen allanol eisoes wedi cyhoeddi na fyddan nhw ar agor i blant ddydd Gwener.

Yn Sir Benfro fe wnaeth nifer o ysgolion gau'n gynnar ddydd Iau - mae mwy o fanylion ar wefan y cyngor, dolen allanol.

Cafodd dros 100 o ysgolion eu cau ddydd Mercher, gyda Sir y Fflint wedi ei heffeithio fwyaf.

Ddydd Mawrth, bu ceir a lori yn sownd yn yr eira ar yr A478 ger Dinas Mawddwy, a bu'r A44 ger Llangurig ar gau hefyd.

Ffynhonnell y llun, Dan Roan
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o fynyddoedd Eryri wedi eu gorchuddio gan eira fore Iau

Mae wardeiniaid Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhybuddio mynyddwyr i gadw oddi ar lethrau'r Wyddfa a chopaon uchel eraill Eryri tra bod yr amodau eithafol yn parhau.

Er bod Yr Wyddfa wedi ei gorchuddio gan eira ers amser, mae'r cawodydd eira diweddaraf yn golygu bod yr amodau wedi gwaethygu yno erbyn hyn.

Ddydd Mawrth, cafodd dyn ei achub oddi ar y mynydd ar ôl iddo gael ei daro gan eirlithriad.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Mae'r parc wedi gofyn i fynyddwyr "ystyried o ddifrif a ydynt yn fodlon peryglu eu bywydau eu hunain ac eraill".

Dros y dyddiau diwethaf mae gwirfoddolwyr Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi cael eu galw allan sawl gwaith i achub cerddwyr mewn trafferthion ar Yr Wyddfa.