Pennaeth cyfres Pobol y Cwm wedi ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Pobol y Cwm

Mae pennaeth cyfres mwyaf poblogaidd S4C wedi ymddiswyddo yn dilyn yr hyn y mae rheolwyr yn ei alw yn gyfnod "ansicr" i weithwyr y rhaglen.

Y gred yw nad ydi Llyr Morus wedi bod yn ei waith eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru, cynhyrchwyr Pobol y Cwm, nad ydyn nhw yn gwneud sylw ar faterion staffio.

Mae Newyddion9 wedi gofyn i Mr Morus am ymateb.

Cyfnod 'ansicr'

Mr Morus oedd cynhyrchydd y gyfres ond mewn e-bost at staff y rhaglen mae un o benaethiaid drama y BBC, Nikki Saunders yn dweud:

"Ro'n i eisiau rhoi gwybod i chi fod Llyr Morus wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w swydd fel cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm a gadael BBC Studios."

"Rwy'n gwybod fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ansicr i chi ond mae Pobol mewn dwylo arbennig gyda thîm cryf yn cydweithio ar y gyfres, ac mae Gwenllian wedi cytuno i gymryd rôl cynhyrchydd y gyfres nes i ni benodi olynydd. Byddwn yn cychwyn ar y broses honno'n fuan."

Bydd Gwenllian Roberts yn cymryd yr awenau dros dro.

Gofynnodd rhaglen Newyddion9 nifer o gwestiynau pellach, gan gynnwys a oedd ymchwiliad mewnol ar y gweill, ond dywedodd y BBC nad ydyn nhw yn gwneud sylw ar faterion staffio.

Roedd rheolwyr o Lundain yn swyddfeydd Pobol y Cwm ddydd Iau er mwyn siarad â staff y rhaglen.

Mater i'r BBC ydi staffio ar y rhaglen yn ôl S4C.