Gofal 24 awr yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Alltwen

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty AlltwenFfynhonnell y llun, Google

Fe fydd Uned Mân Anafiadau yn cynnig gofal 24 awr i bobl ardal Porthmadog o'r penwythnos ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae'r uned yn Ysbyty Alltwen yn Nhremadog ar agor saith niwrnod yr wythnos, o 08:00 tan 22:00.

Ond o nos Sul ymlaen fe fydd gwasanaeth 24 awr y dydd ar gael tan ddiwedd Mawrth.

Bwriad y cynllun yw i atal cleifion rhag gorfod teithio'r holl ffordd i Ysbyty Gwynedd am driniaeth sydd ddim o reidrwydd yn ofal brys.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, fe fydd y gwasanaeth yn "cynorthwyo gyda phwysau parhaus y gaeaf yng Ngwynedd a Môn".

Gofal nes at adref

Bydd y ganolfan newydd yn golygu na fydd rhaid i gleifion yr ardal deithio neu gael eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, sydd oddeutu 27 milltir o Dremadog.

Dywedodd Chris Lynes, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai'n "sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn cael mynediad 24 awr y dydd, saith niwrnod o'r wythnos er mwyn dod â chleifion i Ysbyty Alltwen am asesiad gyda'r bwriad o ofalu am fwy o bobl  yn nes at y cartref lle bo'n briodol gwneud hynny a chadw ambiwlansys yn y gymuned fel bod modd iddyn nhw ymateb yn gyflymach".

Triniaeth yr Unedau Mân Anafiadau:

  • Brathiadau neu bigiadau (pryfed, anifeiliaid a phobl);

  • Mân losgiadau neu sgaldiadau;

  • Dulliau atal cenhedlu y tu allan i oriau fferyllfa;

  • Mân anafiadau i'r llygaid;

  • Mân anafiadau fel ysigiadau a streifiadau;

  • Mân anafiadau i'r pen a'r trwyn (plant ac oedolion);

  • Mân anafiadau i'r cefn/y gwddf.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei gefnogi gan y Gwasanaeth Meddygon Teulu y tu Allan i Oriau a'r Nyrsys Ardal sydd yno'n bresennol.