Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Benfro nos Wener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Peugeot 206 du a Vauxhall Astra lliw arian ar ffordd yr A40 ger Trecwn.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 22:40 a bu farw dynes yn ei hugeiniau.
Fe gafodd pum person oedd yn teithio yn y car arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae teulu'r ddynes a fu farw yn derbyn cymorth arbenigol ar hyn o bryd gan swyddogion.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.