Draig dderw ger yr A5 yn annog neges diogelwch gan yr heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun derw o ddraig ar ochr ffordd yr A5 yng Ngwynedd wedi arwain at rybudd i yrrwyr gan yr heddlu i beidio arafu er mwyn syllu arno yn dilyn gwrthdrawiad.
Mae'r cerflun sy'n mesur saith metr o'r enw Y Ddraig Derw yn edrych lawr ar ffordd yr A5 ger Tregarth.
Mae'r cerflunydd wnaeth greu'r ddraig, Simon O'Rourke hefyd yn annog gyrwyr i ganolbwyntio ar y ffordd.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud er cymaint maen nhw "wrth eu boddau gyda'r ddraig derw" maen nhw'n "pryderu" am ddiogelwch ar y ffordd.
"Mae un gwrthdrawiad wedi bod yn barod a sawl achos agos iawn ar y rhan yma o'r ffordd sydd angen i yrrwr ganolbwyntio'n llawn," meddai'r llu ar eu tudalen Facebook Bangor a Bethesda.
"Canolbwyntiwch ar y ffordd os gwelwch yn dda, os hoffech chi edrych arno, yna parciwch y car yn gyntaf mewn lle diogel," meddai.
Fe dreuliodd Mr O'Rourke bron i wythnos yn creu'r cerflun.
Dywedodd Mr O'Rourke fod y rhan yna o'r ffordd yn "gyflym ac yn beryglus" ar ei dudalen Facebook wrth greu'r ddraig.
Ychwanegodd Mr O'Rourke sy'n byw yn Wrecsam: "Pan rydym yn gyrru drwy rywle fel Birmingham ac mae gennych chi sgriniau mawr sy'n ceisio denu eich sylw ar ochr y ffordd.
"Mae cerflun derw o ddraig yn llai ymwthiol na'r sgriniau yna, pan rydych mewn rheolaeth o gar, fe dyle chi fod yn canolbwyntio'n llawn ar y ffordd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2019