Llofruddiaeth Bagillt: Carchar am oes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 44 oed wedi cael ei ddedfrydu i leiafswm o 23 mlynedd o garchar am ladd ei gymydog mewn ymosodiad ciaidd.
Derbyniodd Christian Williams, o Fagillt, ei ddedfryd o garchar am oes mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug, wedi iddo gael ei ganfod yn euog ddydd Iau o lofruddio Andrew Hamilton mewn bloc o fflatiau ym Magillt ar 18 Gorffennaf y llynedd.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands iddo ymosod yn "giaidd, cyson a didrugaredd" ar Mr Hamilton, gan ddefnyddio sosban, cyllell cegin a photel wedi torri i frifo'r dioddefwr.
"Be achosodd i chi golli'ch tymer, dim ond chi sy'n gwybod," dywedodd.
Roedd Williams wedi torri gwddf Mr Hamilton drwy ei lifio, a dywedodd Barnwr Rowlands ei fod yn "ymddygiad didrugaredd, creulon".
Yn ôl datganiad gan deulu Mr Hamilton: "Ni fydd bywyd yr un peth fyth eto oherwydd ein bod ni wedi colli Andrew yn y ffordd fwyaf erchyll posibl.
"Ceisiodd Christian Williams gyfleu bod Andrew yn ddyn drwg a threisgar oedd wedi ymosod arno fo mor chwyrn nes bu'n rhaid iddo ei ladd er mwyn amddiffyn ei hun.
"Ar ôl clywed tystiolaeth yr achos hwn rydym bellach yn gwybod mai tusw o gelwyddau oedd ei stori.
"Nid oes yna ddedfryd fydd yn ein bodloni fel teulu, mewn gwirionedd, ond mae yna gysur yng nghanlyniad yr achos hwn."
Roedd y teulu hefyd yn awyddus i ddiolch i Heddlu'r Gogledd, Gwasanaeth Erlyn y Goron a thîm yr erlyniad.
Achos 'trasig iawn'
Dywedodd Iestyn Davies, Ditectif Uwch-Arolygydd Tîm Troseddau Difrifol yr Heddlu ei fod yn "gobeithio bydd dedfryd Christian Williams yn fodd o ddod â rhywfaint o dawelwch meddwl i deulu a ffrindiau Andrew Hamilton".
"Christian Williams yn unig sy'n gwybod beth a'i arweiniodd at yr ymosodiad gwyllt."
Ychwanegodd Mr Davies bod yr achos yn un "trasig iawn" a bod Heddlu'r Gogledd yn estyn eu "cydymdeimlad dwysaf" at deulu a ffrindiau Mr Hamilton.
"Roedd eu hymateb a'u parodrwydd i fod o gymorth gyda'r ymchwiliad yn sylweddol ac rwyf yn hynod ddiolchgar," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2019