Bywyd ar ôl Barry John
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor Kit Harington wedi sôn am ei bryder ei fod am gael ei gysylltu â'i gymeriad enwocaf, Jon Snow, am weddill ei yrfa. Bydd y gyfres fyd-enwog, Game of Thrones, yn dod i ben eleni, ac mae'r actor ifanc yn gobeithio y bydd yn gallu symud ymlaen i chwarae mathau gwahanol o gymeriadau.
Ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, siaradodd yr actor Geraint Morgan am ei brofiadau ef o gael ei adnabod yn bennaf fel ei gymeriad ar Pobol y Cwm am gyfnod hir yn ei yrfa.
Pwy yw Geraint Morgan? Wel Barry John siŵr iawn!
"Fyddai'n rhaid i chi fod yn 34 oed o leiaf i chi gofio fi fel cymeriad Barry John ar Pobol y Cwm, ond mae pobl dal yn cofio fi hyd yn oed heddiw.
"Wnes i adael y gyfres yn 1992 yn wreiddiol, er mi ddes i nôl am gyfnod pan ddaeth Barry John i ddysgu taekwondo i ferched Cwmderi, gan fod e wedi bod i ffwrdd yn Newcastle yn dysgu taekwondo.
"Cofiwch, beth oedd e'n ei wneud wedyn oedd ymosod arnyn nhw! Dyna'r math o beth sy'n digwydd ym myd operâu sebon, ac wrth gwrs, Ioan Gruffudd wnaeth ddarganfod Barry'n ymosod ar un o'r merched yma yn car park y Deri Arms. O ganlyniad fel laddes i fy hun yn y gyfres ar ddydd Nadolig 1993!
Felly roedd yn stori eithaf rhyfedd ac yn stori fawr ym myd bach Pobol y Cwm, ond fel oedd pobl yn ymateb iddo?
"Ar y pryd oedden ni'n byw yng Nghaerdydd, ac os o'n ni'n mynd i'r gorllewin neu'r gogledd, oedd e'n rhyw fath o enwogrwydd rhan amser.
"Yng Nghaerdydd, o ddydd i ddydd, do'dd neb llawer yn f'adnabod, ond yn y fro Gymraeg, gan fod Barry'n dipyn o gymeriad cwerylgar, Machiavellian, dan-din... mi roedd pobl wrth eu bodd yn dweud hyn wrtha'i.
"Gwnaeth un ddynes redeg ar fy ôl i lawr y stryd yn Aberteifi gydag ymbarél yn gweiddi 'You're a terrible man!'
"Roedd mynd i 'Steddfod Llanrwst yn 1989 yn agoriad llygad hefyd achos o'n i ddim yn gyfarwydd â Maes y Steddfod dan yr amgylchiadau newydd yn fy mywyd i.
"Es i ddim i'r Eisteddfod am ryw ddwy neu dair blynedd wedi 'ny, achos mi oedd pethau'n gallu mynd yn eithaf annymunol.
"Nawr efallai bod Barry'n ei haeddu fe, achos fod e mor annymunol , ond do'n i ddim yn teimlo bod fi - Geraint - yn ei haeddu fe!
"Ar ôl gadael y gyfres, mi es i weithio ym myd y theatr am gyfnod, yn rhannol oherwydd dyna beth o'n ni am wneud. Cael fy nhynnu mewn i deledu wnes i yn wreiddiol ond o'n ni'n ddigon parod i fynd yn ôl i weithio mewn theatr pan ddaeth yr amser.
"Fel actor, mae'n rhaid bod yn ofalus i fod yn rhy glwm i dy gymeriad. Yng Nghymru, mae'n tueddu i fod yn ocê... os wyt ti'n actor gwerth dy halen, mi ei di ymlaen i gael gwaith arall.
"Ond yr hyn sydd yn tueddu i ddigwydd yw dy fod yn cael i dy gysylltu gyda math arbennig o gymeriad.
"Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad fy mod i wedi chwarae rhestrau o ddynion ifanc - a hŷn erbyn hyn - o ddynion cwerylgar, Machiavellian, dan-din mewn cyfresi a ffilmiau fel Tân ar y Comin, Y Palmant Aur, Gwaith Cartref, 35 Diwrnod, Teulu...
"Maen nhw i gyd wedi bod yn gymeriadau a phobl gwahanol iawn, ond bod nhw i gyd â'r gwallau yna... ond y gwallau sydd yn eu gwneud yn gymeriadau difyr i'w chwarae 'ta beth!
"Mewn ffordd, rwy'n falch iawn bod nhw wedi lladd fy nghymeriad i ffwrdd yn Pobol y Cwm, oherwydd, petaen nhw heb, yna ar yr adegau anodd 'na sydd yn codi ym mywyd pob un actor, mi faswn ni wedi gofyn i fynd nôl.
"Petaen nhw wedi gofyn i fi fynd yn ôl, fasen i wedi cadw mhen lawr, dysgu fy llinellau, peidio cerdded mewn i'r celfi a dyna lle fasen ni nawr... sydd yn fine, ond fydden i ddim wedi cael mwynhau'r yrfa reit amrywiol fi wedi cael.
"Ac erbyn hyn, rwy nôl yn Pobol y Cwm, ond yn cyfarwyddo!"