"Y chwalfa feddyliol a newidiodd fy mywyd"
- Cyhoeddwyd
Mewn byd sy'n prysur newid, gydag oriau gwaith yn cynyddu, technoleg ar flaenau ein bysedd a nifer o bobl yn gweithio o'u cartrefi, mae angen ystyried yr effaith ar ein lles meddyliol, yn ôl Andrew Tamplin o'r Barri.
Mae'n dweud bod y "chwalfa feddyliol" a ddigwyddodd iddo fe rai blynyddoedd yn ôl wedi bod yn drobwynt yn ei fywyd.
"Bues i am flynydde yn gorweithio enbyd ac yn rhoi y masg yma mlaen. Ro'n i'n uwch reolwr mewn banc, yn gweithio lot ac yn teithio. Ro'n i'n gweithio ar benwythnosau ac yn cael cyfarfodydd yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y nos.
"Roedd pobl yn meddwl bod Andrew yn grêt drwy'r amser. Ond y gwirionedd yw, doeddwn i ddim yn grêt drwy'r amser, o'n i'n dda iawn yn cuddio'r pethe yma."
'Y chwalfa feddyliol'
"Mae'n swnio'n ddramatig... y chwalfa feddyliol ges i. Oedd hi'n chwarter wedi 10, yn y gawod, un bore Sul, a phenderfynodd fy nghorff a'n feddwl i ddweud 'digon yw digon'.
"Newidiodd popeth i fi wedi hynny a chymrodd rhyw ddwy flynedd a hanner i ddechre gwella, ar ôl triniaeth seiciatrig a meddyginiaeth.
'Bwysig i weld yr arwyddion'
"Ond y gwirionedd yw, o'n i'n dechre mynd yn sâl rhyw ddwy flynedd cyn hynny, roedd pethe bach yn digwydd, roedd yna arwyddion, a mae'n bwysig bod pobl yn gweld rhain.
"Mae symptomau pawb yn wahanol; i fi o'dd e'n bethau fel blinder oedd yn cynyddu yn raddol bach. Dyna sy'n bwysig i gofio, mae'r symptomau yn crepian i fyny yn raddol. Ro'n i'n dala tostrwydd fel annwyd trwy'r amser, doedd dim cymaint o chwant cymdeithasu arna' i.
"Ac mi o'n i'n neud camgymeriadau a ffeindio mod i'n methu delio gyda phroblemau fel o'n i ynghynt."
Talu'r pris
Erbyn hyn mae Andrew Tamplin yn rhedeg cwmni sy'n gweithio gydag unigolion a chwmnïau a cheisio eu helpu i "beidio gwneud yr un camgymeriadau" ag y gwnaeth ef. Mae'n cynnig cyngor ar sut i drafod iechyd meddwl yn y gweithle a cheisio torri'r stigma sy'n gysylltiedig â'r salwch.
"Dwi'n gweithio gyda chwmnïau ac elusennau ac yn siarad â nhw yn agored ac yn onest am fy mhrofiadau i. Dwi wedi 'neud y camgymeriadau a wedi talu'r pris a dwi am i bobl newid eu ffyrdd cyn i bethau fynd yn rhy bell.
"O fewn ein llefydd gwaith ni, mae angen awyrgylch digon agored lle mae pobl yn gallu dweud 'dwi wedi cael wythnos eitha' gwael, beth alla i 'neud yn wahanol'? A dweud wrth y rheolwr 'dwi ddim yn ymdopi ar hyn o bryd, falle bod eisie newid bach.'
"Mae'n byd ni mor brysur y dyddie hyn, ni'n anghofio gwrando. Mae angen stopio a meddwl, ydy'r person 'ma yn iawn? Ydw i'n iawn?"
Meddai Andrew ei fod wedi anwybyddu'r arwyddion a pheidio ystyried ei iechyd meddwl wrth wthio ei hun i'r eithaf.
"O'n i'n meddwl bo' fi'n rhyw fath o arwr oedd yn gallu 'neud mwy a mwy, ond y gwirionedd yw, mae'r meddwl yn bwerus, ac oedd angen saib ar y meddwl, a dyne beth ges i am chwarter wedi deg yn y gawod.
"Erbyn hyn dwi'n gosod rheolau i fi fy hunan. Byddai'n ceisio peidio anfon e-byst ar ôl 5 o'r gloch ac mae'n rhaid i fi gael hanner awr o dawelwch yn ystod y dydd i'r ymennydd stopio. Dwi'n gweithio ar hyn, achos i fi, fy default position ydy i or-weithio, felly dwi'n trio rhoi systemau mewn lle i helpu fy lles meddyliol.
'Edrych ar ein ffyrdd o weithio'
Mewn byd digidol, prysur a natur y lle gwaith yn newid, mae angen ystyried ein lles meddyliol yn fwy nag erioed, yn ôl Andrew.
"Mae swyddfeydd yn mynd yn llai a mwy o bobl yn gweithio o adre', mae hynny'n dod â lot o bethau da gyda fe ond mae hefyd yn gallu arwain at fod yn unig a ddim yn gweld neb. Efallai eich bod chi hefyd yn gweithio fwy, yn agor y laptop yn gynnar yn y bore ac yn gweithio tan yn hwyr y nos.
"Mae'r newidiadau yn y byd 'ma yn dda, ond hefyd mae'n rhaid rhoi strategaeth les mewn lle mewn cwmnïau ac mae angen i reolwyr fod yn fwy hyderus eu bod nhw yn gallu siarad â'u gweithwyr am iechyd meddwl.
"Tasen i'n dod mewn i'r swyddfa heddiw yn dweud bod annwyd arna i, mae pawb yn deall sut i ymateb, ond os ddo i mewn a dweud 'dwi bach yn isel heddi', dyw pobl ddim yn gwybod beth i ddweud.
"Ond y neges ydy 'mae'n OK i beidio bod yn OK weithiau'."
Hefyd o ddiddordeb