Rheolwr CPD Wrecsam, Graham Barrow, yn gadael ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Graham BarrowFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Graham Barrow ei benodi ar 18 Rhagfyr y llynedd

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi bod Graham Barrow wedi gadael ei swydd fel rheolwr - lai na deufis wedi iddo gael ei benodi.

Cyhoeddodd y clwb ar eu gwefan nos Fawrth, dolen allanol fod Barrow wedi ymddiswyddo o'r rôl.

Mae'n gadael Wrecsam bedwar pwynt i ffwrdd o frig y Gynghrair Genedlaethol gyda 15 gêm o'r tymor yn weddill.

Cafodd ei benodi fel rheolwr ar 18 Rhagfyr y llynedd wedi i Sam Ricketts adael am Yr Amwythig.

Bydd y clwb yn gwneud cyhoeddiad pellach ddydd Mercher.